Ymgynghoriad

Tâl Gwyliau Cyfartalog

Statws

Closed

Dyddiad Dechrau

23/11/2020

Dyddiad Diwedd

20/12/2020

Gweld Ymatebion

Cynnig Ymgynghori Gwreiddiol

Y Cefndir

Diddymwyd y ddarpariaeth goramser contractiol gan gytundeb Statws Sengl 2012.  Fodd bynnag, cydnabyddir bod nifer o staff mewn amrywiol wasanaethau yn gweithio goramser ac oriau ychwanegol.

Ar 6 Ebrill 2020 cyflwynwyd deddfwriaeth newydd a gynyddai’r cyfnod cyfeirio ar gyfer tâl gwyliau o 12 wythnos i 52 wythnos.  Roedd y newid hwn yn gyfle i’r Cyngor adolygu’r trefniadau presennol o ran tâl gwyliau i gyflogeion.

Yr Egwyddor

Yr egwyddor allweddol sydd wrth wraidd tâl gwyliau yw’r egwyddor ganlynol:

‘Holiday pay is based on the principle that a worker should not suffer financially for taking holiday. The pay received by a worker while they are on holiday should reflect what they would have earned if they had been at work.’

Cyfeiriad:
https://www.gov.uk/government/publications/calculating-holiday-pay-for-workers-without-fixed-hours-or-pay/calculating-holiday-pay-for-workers-without-fixed-hours-or-pay–2

Y Drefn Bresennol

Cyfeirir at y modd y trefnir tâl gwyliau yng Nghyngor Ceredigion ar hyn o bryd yn ‘dâl gwyliau cyfunol’.   Golyga hyn y telir swm ychwanegol ar ben y gyfradd arferol a dderbynia’r cyflogai fesul awr, pan fo’n gweithio oriau ychwanegol/goramser.  Telir y swm ychwanegol hwn fel canran (yn seiliedig ar hyd gwasanaeth y cyflogai) ac fe’i telir ar yr un pryd ag y telir yr oriau ychwanegol/y goramser.

Y Drefn Arfaethedig

Yn dilyn adolygiad o’n trefn bresennol ac yn sgil cyflwyno deddfwriaeth newydd, cynigir gwneud y newidiadau canlynol:

  • Yn lle talu tâl gwyliau cyfunol ar bwynt enillion, cynigir cyfrifo tâl cyfartalog y cyflogai (cyflog arferol, goramser ac unrhyw daliadau ychwanegol rheolaidd eraill) dros gyfnod cyfeirio treigl o 12 mis
  • Sicrhau bod gweithwyr achlysurol yn cronni, trefnu a chymryd gwyliau
  • Sicrhau bod pob cyflogai yn derbyn tâl cyfartalog pan fônt ar wyliau

Mae’r penderfyniadau canlynol wedi’u cynnwys yn y cynnig hwn:

Am faint o ddiwrnodau y telir tâl gwyliau cyfartalog
Gwyliau statudol yw isafswm y gwyliau y mae’n ofynnol i unigolyn gael hawl iddynt yn ôl y gyfraith, sef 28 o ddiwrnodau (sy’n cynnwys 8 gŵyl banc) ar hyn o bryd.  Ein hisafswm ni o ran hawliau gwyliau  yw 34 o ddiwrnodau (isafswm o 26 diwrnod o wyliau blynyddol ac 8 gŵyl banc).  Mae’r ddeddfwriaeth yn nodi bod yn rhaid i ni dalu tâl gwyliau cyfartalog ar gyfer y gwyliau statudol, ond mae’r penderfyniad i dalu tâl gwyliau cyfartalog ai peidio ar gyfer gwyliau galwedigaethol yn ôl disgresiwn y cyflogwyr.

Er mwyn sicrhau tegwch, cytunwyd y bydd tâl gwyliau cyfartalog yn gymwys ar gyfer gwyliau statudol a gwyliau galwedigaethol, sy’n golygu y bydd cyflogeion yn derbyn tâl gwyliau cyfartalog ar gyfer pob gwyliau a gymerir. 

Pa daliadau i’w cynnwys wrth gyfrifo tâl cyfartalog
Mae’r canllaw a’r ddeddfwriaeth yn nodi mai dim ond oriau ychwanegol/goramser rheolaidd ddylai gael eu cynnwys wrth gyfrifo tâl cyfartalog, fodd bynnag nid oes diffiniad clir beth sydd yn/beth nad yw’n rheolaidd.

Er mwyn sicrhau tegwch ac er mwyn ei gwneud hi’n haws deall a chyfrifo, cytunwyd y bydd yr holl oriau ychwanegol a’r goramser i gyd yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo tâl cyfartalog.

Pa gyfnod cyfeirio i’w ddefnyddio
Y cyfnod a ddefnyddir i gyfrifo tâl cyfartalog cyflogai yw’r cyfnod cyfeirio.  Noda’r canllaw a’r ddeddfwriaeth y dylai’r cyfnod cyfeirio bellach fod yn 52 wythnos am dâl (1 flwyddyn), ac yn yr achos hwnnw lle nad yw cyflogai wedi derbyn tâl am wythnos benodol, yna dylid ymestyn y cyfrifiad i gynnwys hyd at uchafswm o 104 wythnos (2 flynedd).  Mae Cyngor Sir Ceredigion, ynghyd â llawer o sefydliadau eraill yn cyfrifo ac yn prosesu tâl yn fisol, felly y dull mwyaf addas yw defnyddio 12 mis am dâl, yn hytrach na 52 wythnos.

Er mwyn ei gwneud yn haws ei gyfrifo a’i ddeall, cytunwyd i seilio’r cyfnod cyfeirio ar fisoedd am dâl yn hytrach nag wythnosau am dâl.

I bwy y mae’r trefniadau’n berthnasol

Bydd y trefniadau arfaethedig yn berthnasol i gyflogeion o fewn y grwpiau canlynol:

  • Cyflogeion a chanddynt gontract achlysurol (dim oriau)
  • Cyflogeion a chanddynt oriau cytundebol ac sydd yn cymryd gwyliau blynyddol

Ni fydd y trefniadau yn berthnasol i gyflogeion o fewn y grwpiau canlynol:

  • Cyflogeion a chanddynt gontract wythnosau yn ystod y tymor
    gan fod cyfrifiatâl gwyliau wedi’i gynnwys yn eu cyflog blynyddol
  • Athrawon
    gan fod telerau ac amodau athrawon yn cynnwys cyfrifiad ar gyfer gwyliau

Gweithredu

Cynigir gweithredu’r newidiadau hyn o 1 Chwefror 2021 ymlaen.