Hawliau Gwyliau Blynyddol – Ymatebion

Crynodeb

Derbyniwyd yr ymatebion canlynol:

Nifer yr Ymatebion
Ymatebion a oedd yn cytuno â’r cynnig 19
Ymatebion nad oedd yn cytuno â’r cynnig 11
Cyfanswm 30

Noder: Tynnodd tri o’r ymatebion ein sylw at y ffaith bod gwall yn y golofn ‘Nifer yr Oriau (Cyfwerth ag Amser Llawn)’ wrth drafod y drefn arfaethedig.   Nodwyd yn anghywir mai 229.4 oedd nifer yr oriau, pan ddylid bod wedi nodi mai 244.2 oedd nifer yr oriau.   Cafodd hyn ei gywiro’n syth ar wefan yr ymgyngoriadau ac felly nid ydym o’r farn i hyn gael effaith ehangach ar yr ymatebion a dderbyniwyd.

Ymatebion

Er mwyn bod yn gwbl agored, tryloyw a chlir mae’r ymatebion a dderbyniwyd wedi eu crynhoi/eu grwpio lle bo hynny’n bosibl.   Mae’n bosibl, felly, bod yr ymateb a nodir yn y tabl isod wedi ei aralleirio.

Ymateb Ateb
Yn cytuno

Rwy’n cytuno â’r hawl arfaethedig newydd ac yn ei chefnogi

Gwerthfawrogir y sylw ac mae wedi ei nodi.
Gwobrwyo gwasanaeth hir

Ymddengys fod staff hirdymor yn cael eu cosbi ac na ddangosir teyrngarwch at staff sydd wedi dangos ymrwymiad ac ymroddiad yn ystod eu gwasanaeth hirdymor.     Nid oes unrhyw symbyliad i gadw aelodau o staff gwybodus, profiadol wrth ddileu’r gwobrwyon hyn.   Oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i gronni diwrnodau ychwanegol, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe baem yn dal i dderbyn y diwrnodau ychwanegol hyn fel arwydd o deyrngarwch a gwasanaeth hirdymor.

Gall yr amser y mae’n ei gymryd i gronni gwyliau ychwanegol dan y drefn bresennol arwain at honni bod yna wahaniaethu ar sail oedran.   Mae cyflwyno trefniadau lle gellir derbyn yr hawl lawn dros gyfnod byrrach yn lleihau’r risg hwn.
Dylid cael rhyw ffurf o annog/wobrywo staff am wasanaethu’r Cyngor am bymtheng mlynedd, am bum mlynedd ar hugain neu am ddeng mlynedd ar hugain.   Beth am fathodyn neu dystysgrif ayb.  rhywbeth mwy i nodi blynyddoedd sy’n gerrig milltir arbennig.   Nid oes angen i hyn fod yn rhywbeth drud, ond dylai fod yn rhywbeth arbennig i’w arddangos. Gallai polisi o roi anrhegion am wasanaeth hirdymor dros bum mlynedd arwain at honiad o wahaniaethu ar sail oedran.   Rhoddir sylw, fodd bynnag, i glustnodi ffyrdd posibl o gydnabod gwasanaeth hirdymor.
Oriau ychwanegol staff mewn ysgolion

Fel CALU sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen drwy gydol y pandemig COVID-19, rwy’n siomedig iawn ein bod ni, staff ysgolion, yn dioddef.  Rwy’n gweithio’r oriau amser llawn a ganiateir i ni, sef 32.5 awr.  Rwy’n  dal i fynd â gwaith adref i’w farcio a’i asesu, felly mae fy oriau yn nes at y 39 awr a ystyrir yn oriau llawn amser.  Ond rydym dro ar ôl tro ar ein colled gyda threfniadau pro-rata.
Mae’n hen bryd i’r oriau ychwanegol yr ydym yn eu treulio yn marcio a pharatoi gael eu hystyried, gan fod  gwahaniaeth mawr rhwng y raddfa gyflog a’r gyflog yr ydym yn ei derbyn, wedi tynnu yr hyn sydd angen ei ddidynnu ar gyfer talu pro-rata.

Bydd y cynnig yn berthnasol yn yr un modd i staff sy’n gweithio yn ystod y tymor yn unig, y rhai sy’n gweithio rhan amser, drwy’r flwyddyn, neu’n llawn amser.

 

Nid yw materion sy’n ymwneud ag oriau ychwanegol a wneir mewn swydd yn ffurfio rhan o’r ymgynghoriad hwn ac felly dylid codi’r materion hynny gyda’ch rheolwr llinell neu gyda’r pennaeth.

Gwyliau’r Cwmni

Y broblem fwyaf gydag hawliau gwyliau blynyddol yw’r ffaith bod y cyngor yn defnyddio rhai o hawliau’r staff yn orfodol, ond eto mae’r Cyngor yn dweud eu bod yn rhan o’r hawliau.   Mewn gwirionedd, dim ond 23 diwrnod sydd gan staff, nid 26 diwrnod; ar Ceri mae’n dweud ‘Gwyliau’r Cwmni’ NID ‘Gwyliau Blynyddol’ er y defnyddir hawl yr aelod o staff.   Os yw’r cyngor yn poeni ynghylch annhegwch, ni ddylai 29-31 Rhagfyr gael eu tynnu allan o hawliau gwyliau blynyddol staff.

Mae hawl gan y Cyngor i fynnu bod gweithwyr yn cymryd eu gwyliau blynyddol ar ddyddiau penodedig yn ystod y flwyddyn wyliau a bod y rhain yn rhan o hawliau gwyliau’r gweithiwr.
Cyfrifiad anghywir

Mae’r modd y cyfrifir hawliau gwyliau blynyddol gweithwyr sy’n gweithio yn ystod y tymor a’r modd y cyfrifir eu graddfa gyflog fesul awr yn anghywir ac mae angen newid hyn.

Bydd y cyfrifiad yn cael ei adolygu.

Penderfyniad

Gweithredu’r cynnig a bydd y newid yn dod i rym o 1 Ebrill 2021 ymlaen.