Ymgynghoriad

Hawliau Gwyliau Blynyddol

Statws

Closed

Dyddiad Dechrau

23/11/2020

Dyddiad Diwedd

20/12/2020

Gweld Ymatebion

Cynnig Ymgynghori Gwreiddiol

Y Drefn Bresennol

Mae trefniadau presennol hawliau gwyliau blynyddol a’r modd y’u dyrennir, fel a ganlyn:

Cyfnod o Wasanaeth Di-Fwlch i Lywodraeth Leol  Nifer yr Oriau (Cyfwerth ag Amser Llawn) Nifer y Diwrnodau (Cyfwerth ag Amser Llawn)
Llai na 5 mlynedd 192.4 awr 26 diwrnod
5 mlynedd neu fwy ond llai na 15 mlynedd 222.0 awr 30 diwrnod
15 mlynedd neu fwy ond llai nag 20 mlynedd 229.4 awr 31 diwrnod
+1 diwrnod ychwanegol (7.4 awr) am bob pum mlynedd

Noder: Mae gwerthoedd yr hawliau a nodir uchod i gyd ar gyfer staff sy’n gweithio’n llawn amser.  Mae staff rhan amser yn derbyn hawliau pro rata. Nid yw’r hawl i gael wyth niwrnod o wyliau banc y flwyddyn wedi ei gynnwys yn yr adolygiad hwn.

Adolygiad

Ar hyn o bryd nid oes terfyn i uchafswm y diwrnodau gwyliau y mae gan unigolyn hawl iddynt, ond yn amlwg, byddai angen nifer sylweddol o flynyddoedd o wasanaeth i ennill diwrnodau ychwanegol. Er enghraifft, byddai angen 30 mlynedd o wasanaeth i gronni 33 diwrnod, 40 mlynedd i gronni 35 diwrnod.  Gellid ystyried y trefniadau presennol yn rhai sy’n gwahaniaethu o ran oed, oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i gronni diwrnodau ychwanegol.  Cynhaliwyd adolygiad i sicrhau tegwch a chyfiawnder.

Y Drefn Arfaethedig

Y cynnig yw diwygio’r modd y dyrennir hawliau gwyliau blynyddol fel a ganlyn:

Cyfnod o Wasanaeth Di-Fwlch i Lywodraeth Leol  Nifer yr Oriau (Cyfwerth ag Amser Llawn) Nifer y Diwrnodau (Cyfwerth ag Amser Llawn)
Llai na 5 mlynedd 192.4 awr 26 diwrnod
5 mlynedd neu fwy ond llai na 10 mlynedd 222.0 awr 30 diwrnod
10 mlynedd neu fwy 244.2 awr 33 diwrnod

Bydd yr hawliau gwyliau i gyd yn dal i gael eu cyfrifo ar sail pro rata i staff sy’n gweithio llai nag oriau amser llawn.

Diogelu

O ran y staff sydd yn derbyn yr hawl i fwy o wyliau blynyddol na’r uchafswm o 33 diwrnod arfaethedig (oherwydd hyd eu gwasanaeth), yna diogelir eu hawl bresennol, fodd bynnag ni fyddant yn derbyn unrhyw gynnydd pellach.  Y dyddiad y rhoddir y cynnig hwn ar waith fydd y dyddiad a ddefnyddir i benderfynu pa staff fydd yn cael eu diogelu.

Gweithredu

Cynigir bod y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith ac yn dod i rym o 1 Chwefror 2021 ymlaen.