Awydd cael seibiant o alcohol ar ôl y Nadolig?

Nid oedd 2020 yn flwyddyn grêt. Mae llawer ohonom wedi bod dan straen, yn ofnus ac wedi blino. Rydym wedi dechrau ar arferion yr hoffem eu hosgoi erbyn hyn. Nid yw’n syndod nad oes llawer ohonom yn teimlo fel ein hunain mwyach.

Dyna paham mae Ionawr sych yn bwysig. 31 diwrnod heb alcohol. Eich cyfle i dorri ar arferion. Cyfle i ail osod eich ffordd o fyw.

Nid yw hyn yn ymwneud ag ymatal rhag yfed am byth. Mae’n fwy o beth na mis Ionawr yn unig. Mae’n ymwneud â chi, drwy’r flwyddyn gyfan. Mae’r cyfan yn ymwneud â dysgu nad oes angen alcohol arnoch ac am weddill y flwyddyn bydd gennych ddewis i wneud yr hyn yr hoffech chi ei wneud. Mae’n gyfle i chi sicrhau y bydd 2021 cystal ag y gall fod.

Bydd Alcohol Change UK: ar gael i gynorthwyo

Os byddwch chi’n lawr-lwytho’r app neu’n rhan o’r e-byst symbylu / hyfforddi rydych chi’n dyblu eich cyfle i sicrhau eich bod yn medru mynd am fis heb alcohol ac yn medru cael manteision gwych yn sgil hynny sy’n medru parhau am fwy o amser.

Nid yw Ionawr sych yn ymwneud ag ymatal rhag rhywbeth yn llwyr. Y mae’n ymwneud â hawlio rhywbeth yn ôl. Bod yn fwy o sbort. Bod yn fwy tawel eich meddwl. Bod yn fwy egnïol.

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech chi roi cynnig arni, cofiwch gadw llygad am fwy o wybodaeth ar Ddydd Mercher Lles cyntaf 2021.