Noder fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog cenedlaethol 2026/2027 sydd ar ddod. Caiff y cyflog terfynol ei addasu yn unol â hynny unwaith y bydd y dyfarniad wedi’i gytuno.
Eisiau dechrau eich gyrfa ym maes datblygu systemau AD a dadansoddeg pobl? Am wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu i lywio sut rydym yn defnyddio technoleg a data i gefnogi ein gweithlu? Rydym yn chwilio am unigolyn cymhellol i ymuno â ni fel Hyfforddai Graddedig o fewn y Gwasanaeth Pobl a Threfniadaeth, i weithio ochr yn ochr â’n Swyddog Datblygu ac Integreiddio Systemau AD ar gontract cyfnod penodol, llawn amser, 12 mis.
Yn y rôl hon, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ar draws systemau AD, adrodd data a gwelliant gwasanaeth. Byddwch yn cefnogi datblygu a chynnal systemau AD pwrpasol, yn helpu i gynhyrchu adroddiadau a dangosfyrddau, ac yn dysgu sut mae data’n cefnogi gwneud penderfyniadau ac yn llywio cynllunio’r gweithlu. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i gwblhau cymhwyster rheoli prosiect achrededig PRINCE2 ac i gymhwyso eich dysgu ar flaenoriaethau gwasanaeth go iawn.
Beth fyddwch chi’n ei wneud:
Yr ymgeisydd delfrydol
Rydych yn chwilfrydig, trefnus ac yn mwynhau datblygu a gweithio gyda data. Rydych yn hoffi datrys problemau, dysgu technolegau newydd a throi gwybodaeth yn fewnwelediadau ystyrlon.
I fod yn gymwys ar gyfer y cyfle hyfforddai graddedig hwn, bydd angen:
Beth sydd ynddo i chi?
Os ydych yn barod i ddechrau gyrfa â phwrpas a helpu i lywio sut rydym yn defnyddio systemau a data i gefnogi ein gweithlu, gwnewch gais nawr a dechreuwch eich gyrfa gyda Thîm Ceredigion!
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gwybodaeth fanwl am y cyfle a’r profiad cyflogaeth a gynigiwn yn Nhîm Ceredigion ar gael yn y dogfennau canlynol:
Sesiwn Gwybodaeth Rithwir: Ymunwch â ni ddydd Llun, 15fed Mehefin, o 10:30 yb i 11:30 yb neu Dydd Gwener, 26 Mehefin 2026 am 12:00 - 12:45. Cliciwch yma i gofrestru.
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 13 Gorffennaf 2026
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Angharad Rees drwy angharad.nofelo.rees@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.