Porth Ceredigion

Rydym yn newid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau gofal i bobl Ceredigion.

Ffordd Newydd o Weithio – Gwasanaethau Integredig

Rydym yn falch o gyhoeddi bod model newydd i ddarparu ‘gwasanaethau integredig’ wedi’i ddatblygu ac yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd.

I ddysgu mwy am y model ‘gwasanaethau integredig’, ein gweledigaeth a sut y bydd o fudd i bobl Ceredigion, gwyliwch y fideo rhagarweiniol yr ydym wedi’i baratoi ar eich cyfer.

Newidiadau i’r Strwythur Corfforaethol

O ganlyniad i gyflwyno’r ffordd newydd hon o weithio, mae Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a’r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes a Diwylliant wedi’u dileu o’n strwythur corfforaethol ac mae’r gwasanaethau canlynol wedi’u cyflwyno:

> Porth Cymorth Cynnar – Lles a Dysgu Cymunedol

> Porth Ceredigion – Gwasanaethau Ymyrraeth wedi’u Targedu

> Porth Cynnal – Gwasanaethau Arbenigol Gydol Oes

Beth nesaf?

Rydym yn falch o gadarnhau ein bod wedi llwyddo i lenwi’r swyddi Rheolwr Corfforaethol a hysbysebwyd yn ddiweddar. Nesaf, bydd y Rheolwyr Corfforaethol a apwyntiwyd yn gweithio gyda’u timau i ddatblygu’r model ymhellach.

Diolch

Hoffwn estyn fy niolch i staff am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus tra bod y newidiadau pwysig ac allweddol hyn yn cael eu gwireddu.

Cofion cynnes

Eifion Evans
Prif Weithredwr