Caniatâd i lenwi swydd wag
Mewn bron bob achos mae’n rhaid cael cymeradwyaeth Grŵp Arweinyddiaeth cyn hysbysebu swydd wag.
Cyn ceisio cymeradwyaeth Grŵp Arweinyddiaeth rhaid i ‘Achos Busnes Recriwtio’ gael ei gymeradwyo gan eich Pennaeth Gwasanaeth ac yna’i gyflwyno i Adnoddau Dynol. Mae 2 ddull o wneud hyn:
- Ar gyfer swyddi sydd eisoes yn bodoli dylid gwneud hyn gan ddefnyddio ceri | rheolwr bobl.
- Ar gyfer swyddi newydd neu swyddi sy’n bodoli eisoes ond wedi eu hail-raddio rhaid cyflwyno’r achos busnes i Adnoddau Dynol drwy e-bost.