Gwiriadau diogelwch offer

Argymhellir bod archwiliadau gweledol o gyfarpar yn cael eu cynnal yn fisol, mewn rhai achosion bob wythnos, er mwyn sicrhau diogelwch y defnyddwyr gwasanaeth a’r staff. Os digwydd damwain neu ddigwyddiad, bydd y rhestrau gwirio yn rhan o’r sail dystiolaeth fydd yn dangos bod y cyfarpar yn cael ei wirio’n rheolaidd ac yn cael ei gynnal i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio.