Asesiad Risg Beichiogrwydd
Nod y canllawiau hyn yw cefnogi’r asesiad risg diwygiedig ar gyfer gweithwyr sy’n famau beichiog neu’n famau newydd. Mae dyletswydd gyfreithiol ar Sir Ceredigion i sicrhau fod pob gweithwraig feichiog yn cwblhau asesiad risg mor gynnar ag sy’n bosibl yn y beichiogrwydd a bod pob mesur ymarferol posibl yn cael ei gymryd i osgoi neu leihau peryglon i’r rhai hynny yr ystyrir eu bod mewn risg.
Rhaid i’r Rheolwr/Pennaeth a’r weithwraig feichiog dan sylw gwblhau’r asesiad risg ar gyfer gweithwyr sy’n famau beichiog neu’n famau newydd; os caiff peryglon eu nodi rhaid hysbysu’r Adran Adnoddau Dynol a fydd yn cynorthwyo gyda’r penderfyniad i un ai gynnwys y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol neu’r Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.
Adran un: Manylion personol
Mae’r adran hon yn hunanesboniadol ond rhaid ystyried prif ddyletswyddau’r unigolyn a fydd o gymorth wrth ddynodi’r ardaloedd sy’n peri risg. Gweithio ar eich pen eich hun, codi gwrthrychau trwm neu godi ailadroddus, gweithio gyda phobl neu blant a allai achosi niwed ac ati. Rhoddir ystyriaeth fanylach yn ogystal i’r risgiau hyn yn ystod yr asesiad hwn.
Gallai cyflyrau meddygol a all ddatblygu yn ystod beichiogrwydd gynnwys:
- Hyperemesis Gravidarum (chwydu gormodol yn ystod beichiogrwydd)
- Diabetes yn ystod beichiogrwydd
- Problemau’r ffetws
- Pwysedd gwaed uchel neu gyneclampsia
- Iselder a Gorbryder
- Placenta Previa (y brych yn y man anghywir)
Yn ogystal â hyn, gall cyflyrau meddygol a fodolai cyn beichiogi waethygu oherwydd y beichiogrwydd, gan gynnwys:
- Asthma
- Iselder
- Diabetes
- Epilepsi
- Pwysedd Gwaed Uchel
- Meigryn
- Diffyg yn y Thyroid
Adran dau: Ffactorau risg yn y gwaith
Rhennir yr adran hon yn 14 ffactor risg a gaiff eu dynodi’n weithgareddau risg uchel ar gyfer gweithwyr sy’n famau beichiog neu’n famau newydd. Mae’r ddau ffactor cyntaf yn ymwneud â chodi a chario a ddiffinnir yn gyfreithiol fel “cludo neu gynnal llwyth (gan gynnwys codi, gostwng, gwthio, tynnu, cario neu symud) â llaw neu â grym corfforol.”
- Codi a chario gwrthrychau: Cymryd i ystyriaeth y gall gwrthrychau poeth, miniog neu rai sy’n symud mewn modd na ellir ei ragweld gynyddu’r ffactor o risg hyd yn oed os nad yw’r gwrthrych yn ymddangos yn drwm. Dylai’r weithwraig feichiog allu osgoi codi gwrthrychau peryglus drwy naill ai ofyn am gymorth neu wrthod ymgymryd â thasg y gellid ei hystyried yn beryglus. Dylai asesiad risg addas a digonol ar gyfer codi a chario gyd-fynd â’r gweithgaredd hwn
- Codi a chario pobl (gofal preswyl, disgyblion ac ati): Ystyriaethau eraill y gellid rhoi sylw iddynt fyddai pryderon ynghylch ymddygiad, pwysau’r unigolyn, ystyriaethau o ran croes-heintio, yr amgylchedd y cyflawnir y gweithgaredd ynddo ac ati. Dylai asesiad risg gyd-fynd â’r gweithgaredd hwn yn ogystal. Petai’r gweithgaredd yn cael ei ddynodi’n un risg uchel, mae’n bosibl y byddai angen rhoi mesurau rheoli yn eu lle a allai sicrhau bod cymorth ar gael, trefnu bod y gweithgaredd yn cael ei gyflawni mewn ffordd wahanol neu hyd yn oed nad yw’r gweithgaredd yn cael ei gyflawni tra’n feichiog.
- Ystyrir bod gwthio’r corff yn ormodol yn risg posibl gan y gall achosi mwy o flinder, gall achosi i’r pwysedd gwaed godi a gall hefyd ddwysáu diagnosis Placenta Previa. Mynediad i egwyliau rheolaidd, defnyddio’r lifft rhwng lloriau lle’n briodol, edrych ar yr amgylchedd y cyflawnir gweithgareddau ynddo; gall gofod annigonol gynyddu faint o blygu ac ymestyn sy’n angenrheidiol.
- Mae angen ystyried y ffactor hwn yn ogystal gan fod y ffin yn denau rhwng gweithio’r corff mewn modd iach sy’n bwysig i bawb, yn enwedig gweithwyr beichiog, a gwthio’r corff yn ormodol a allai roi’r weithwraig feichiog a’r baban mewn perygl.
- Mae gweithio ar uchder yn weithgaredd sy’n defnyddio ysgolion, llwyfannau esgynedig neu hyd yn oed yn ddringo ar gelfi i gyrraedd lefel uwch am ba bynnag reswm, a dylai gweithwraig feichiog osgoi hyn.
- Pryderon am ymddygiad boed y rheiny’n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, disgyblion neu aelodau o’r cyhoedd; dylai hyd yn oed anifeiliaid gael asesiad risg er mwyn penderfynu ar y ffordd orau o leihau’r risg i’r weithwraig feichiog. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r unigolyn newid gweithfan am gyfnod, newid yr adegau o’r dydd y mae’n gwneud pethau penodol neu nad yw’n gweithio ar ei phen ei hunan mewn rhai amgylchiadau.
- Gallai ardaloedd cyfyng olygu bod rhywun yn gweithio yn rhywle lle mae’r gofod wedi’i gyfyngu ar gyfer symud am ba bynnag reswm. Dylai asesiad risg gyd-fynd â’r gweithgareddau hyn er mwyn darganfod sut i leihau’r risgiau a ddynodwyd. Gallai mannau cyfyng olygu gweithio lle bo’r tymheredd yn uwch na’r cyffredin neu, os yw ar uchder neu o dan y ddaear, yna ni fyddai menywod yn cyflawni’r gweithgareddau hyn tra’n feichiog.
- Mae gweithio ar eich pen eich hunan yn cael ei ddiffinio fel “gweithio heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol”. Mae peryglon yn cynyddu yn ôl adegau’r flwyddyn a lefelau naturiol y golau, gorfod cloi adeiladau ar ddiwedd y diwrnod gwaith, peryglon yn ymwneud â mynediad i rai cyfeiriadau gwledig, ymddygiad nad oes modd ei ragweld gan aelodau o’r teulu, cymdogion, derbyniad gwael i ffonau symudol ac ati. Gall defnyddio cynllun cyfeillio’r Sir a rhannu dyddiaduron arlein gynorthwyo i reoli’r sefyllfa, ond os caiff unrhyw beryglon eu dynodi, rhaid cynnal asesiad risg.
- Gall rhai hylifau’r corff fod wedi eu heintio â bacteria, gwenwyn, llwydni a feirysau a gallai hyn nid yn unig achosi i’r weithwraig feichiog deimlo’n anhwylus ond gallai hefyd effeithio ar y baban cyn ei eni. Dylai mynediad i gynnyrch glanhau diogel, lefelau hylendid da yn y gwaith yn ychwanegol at fynediad i Gyfarpar Diogelu Personol priodol leihau’r risg o roi’r weithwraig feichiog yn agored i’r peryglon hyn.
- Gall dod i gysylltiad â chemegau peryglus e.e. hylifau glanhau, toddyddion, plaladdwyr niweidio’r ddynes feichiog neu ei phlentyn cyn ei eni. Dylai pob cemegyn peryglus yn y gweithle, beth bynnag fo’r defnydd ohono, gael ei asesu yn ôl deddfwriaeth COSHH (Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd). Cyn defnyddio unrhyw gemegyn niweidiol, rhaid i ni ymchwilio i weld a oes opsiwn llai peryglus y gellid ei ddefnyddio. Os nad yw hyn yn bosibl, yn enwedig lle bo dynes feichiog dan sylw, yna dylai’r unigolyn osgoi dod i gyswllt â’r cemegyn hwn.
- Mae lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â chlefydau heintus yn arbennig o bwysig, yn enwedig pan mae’n gysylltiedig â heintiau sy’n peryglu bywyd, fel clefyd y foch goch (a welir yn aml ymysg plant ifainc), brech goch yr Almaen, Toxoplasmosis, Parvovirus, Listeria, Salmonela ac ati; mae rhai o’r rhain yn peri mwy o berygl yn y lle cyntaf i’r baban cyn ei eni. Dyma’r ardal lle y gall y weithwraig feichiog gynorthwyo drwy leihau’r perygl o ddod i gysylltiad â’r heintiau. Os oes disgwyl iddi deithio gyda’i gwaith i ysgolion neu gartrefi preswyl, mae ganddi’r hawl i ofyn cyn cyrraedd yno a oes unrhyw beryglon tebyg i’r rhain y dylai fod yn ymwybodol ohonynt. Mae rhai cartrefi preswyl a chanolfannau dydd lle y mae gweithwraig feichiog yn gweithio ynddynt yn gosod arwyddion yn gofyn yn garedig i unrhyw ymwelwyr i’r adeiladau sy’n dioddef o’r heintiau neu’r symptomau hyn fynd i’r dderbynfa neu gofynnir iddynt beidio ymweld tan eu bod wedi gwella.
- Gellir ystyried bod gyrru yn rhan o’r diwrnod gwaith (ac nid cymudo i’r gwaith) yn risg uchel os oes ganddynt eisoes bwysedd gwaed uchel neu ddiabetes a allai effeithio ar eu golwg neu eu hatblygiadau; mewn achos fel hwn gall eu meddyg teulu argymell, gyda’u cydsyniad nhw, nad ydynt yn gyrru am y tro.
- Mae gan nifer o famau beichiog a mamau newydd bryderon ynghylch iechyd meddwl o ryw fath neu’i gilydd, boed y rheiny am orbryder, pyliau o banig, iselder; bydd angen i’r weithwraig wybod nad yw ar ei phen ei hun ac y gall siarad â rhywrai am ei phryderon, er enghraifft, chi; ei rheolwr, fel arall aelod o wasanaeth cwnsela’r Awdurdod, cynrychiolydd o’r adran adnoddau dynol neu ei meddyg teulu.
- Nid yw blinder yn risg ynddo’i hunan pan fo’r weithwraig yn gallu cymryd egwyliau byr, rheolaidd a bod ganddi fynediad i fwyd a diod. Y Rheolwr/Pennaeth sydd i drefnu a rheoli’r egwyliau hyn.
- Mae pob un o ardaloedd y cyngor yn rhai ‘dim ysmygu’. Dylai ysmygwyr yng nghyffiniau mynedfa ac allanfa’r man gwaith gael eu cyfeirio i’r ardal ysmygu agosaf.
Adran tri: Cyfleusterau Lles, Tân a Diogelwch
Nid yw gweithwyr beichiog yn cael mwy o gyfleusterau lles na’r rhai nad ydynt yn feichiog, ond dylai’r cyfleusterau hynny sydd yn eu lle fod yn addas a digonol.
O ran cymorth cyntaf, gofynnwch am ganiatâd y weithwraig feichiog i rannu gwybodaeth am ei beichiogrwydd gyda’r swyddog cymorth cyntaf. Bydd y wybodaeth hon yn werthfawr mewn argyfwng.
Rhaid i’r Rheolwr/Pennaeth asesu a fydd angen cymorth ar y weithwraig feichiog i adael yr adeilad mewn argyfwng. Os oes angen cymorth arnoch gyda hyn, cysylltwch â HealthandSafety@ceredigion.gov.uk.
Unwaith y bydd y rhan hon wedi’i chwblhau, cadwch gopi yn ffeil y weithwraig ac anfonwch gopi i Adnoddau Dynol. Cofiwch anfon copi diwygiedig i’r adran Adnoddau Dynol bob tro y byddwch yn diwygio a diweddaru’r wybodaeth.
Humanresources@ceredigion.gov.uk
Adran pedwar: ystyriaethau wrth ddychwelyd i’r gwaith
Mae’r adran hon yn edrych ar sut i gefnogi’r fam newydd wrth iddi ddychwelyd i’r gwaith; ar wahân i’r cyfleusterau lles a ddarperir mae’n golygu, yn ogystal, bod ardal ar gael sy’n ddigon preifat ar gyfer bwydo ar y fron/tynnu llaeth; a bod oergell lân a diogel ar gael i gadw’r llaeth, o bosibl.
Mae’n bosibl y dylech ystyried asesu’r sgrîn arddangos lle bo angen yn ogystal, a gallai hyn ddynodi bod gofyn ychwanegol am atgyfeiriad i’r adran Iechyd Galwedigaethol neu beidio os oes gan y fam newydd anafiadau cyhyrysgerbydol/iechyd ychwanegol yn dilyn yr enedigaeth.
Byddai’r Adran hon yn cael ei chwblhau ar ôl i’r weithwraig ddychwelyd i’r gwaith a byddai’n cael ei defnyddio fel dogfen gyflawn.
Canllawiau Pellach:
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) New and expectant mothers who work. http://www.hse.gov.uk/pubns/indg373w.pdf
GOV.UK: pregnant employees’ rights http://www.hse.gov.uk/pubns/indg373w.pdf
Y GIG (NHS): Gwaith a beichiogrwydd. https://www.nhs/conditions/pregnancy-and-baby/your-helath-at-work-pregnant/