Cwestiynau a Ofynnir yn Aml parthed Hyfforddiant

Fel rheolwr, a gaf i newid un aelod staff am un arall ar fyr rybudd?

Cewch. Fel Rheolwr gallwch newid un aelod staff am un arall ar y funud olaf os bydd angen i rywun ganslo. Eich cyfrifoldeb chi hefyd yw diweddaru’r wybodaeth drwy gyfrwng y modiwl Dysgu a Datblygu ar Reolwr Pobl Ceri.

 A gaf i archebu lle ar gyrsiau hyfforddiant ar gyfer aelodau eraill o fy nhîm?

Dim ond dan amgylchiadau eithriadol. Sylwer y dylai rheolwyr bob amser annog eu staff i archebu lle drostyn nhw’u hunain.
Fel rheolwr, sut fydda’ i’n gwybod bod aelod o fy nhîm wedi archebu lle ar gwrs?
Pan fydd aelod o dîm yn archebu lle ar gwrs, bydd e-bost yn cael ei gynhyrchu’n awtomatig i hysbysu’r rheolwr perthnasol, er mwyn gallu monitro a rheoli presenoldeb staff. Mae’n bwysig bod rheolwyr yn cadw golwg ar hyn yn rheolaidd fel na fydd gormod o staff yn mynychu’r un cyrsiau ar yr un pryd.