Cynefino

Nod y canllawiau hyn yw’ch cynorthwyo pan fydd aelod newydd o staff yn cynefino â’i swydd. Y bwriad wrth gynefino yw helpu’r gweithiwr newydd i ddod i arfer â’r gweithle newydd cyn gynted â phosib, fel y gall fod mor effeithlon â phosib wrth ei (g)waith yn ddiymdroi. Mae’n bwysig cofio mai proses yw cynefino a ddylai gymryd sawl wythnos, ac nid yw’n rhywbeth sy’n digwydd dros nos.

Bydd hyd y rhaglen gynefino a’i chynnwys yn amrywio yn ôl natur y swydd. Dylech ddefnyddio’r rhestrau gwirio isod wrth ystyried pa faterion a phynciau cyffredinol y dylid eu cynnwys yn y rhaglen gynefino er mwyn cynorthwyo’r gweithiwr newydd i  fwrw iddi mor rhwydd ac effeithiol â phosib.

Os oes arnoch angen unrhyw gyngor ac arweiniad ar gynefino, ar ben y canllawiau hyn, mae croeso ichi gysylltu ag Adnoddau Dynol.

Canllawiau arfer da

Dylai cynefino ddigwydd dros nifer o wythnosau, neu fisoedd efallai. Yn ystod y cyfnod hwn bydd yn rhaid i’r gweithiwr ddysgu llawer iawn o wybodaeth. Wrth ddarparu rhaglen gynefino dda bydd modd:
• helpu’r unigolyn i ddeall y swydd
• helpu’r unigolyn i ddod yn gyfarwydd â’r gweithle, y diwylliant a gweithdrefnau a pholisïau’r Ysgol
• sicrhau fod y gweithiwr yn deall y cyfrifoldebau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r swydd

Pwy sydd angen cynefino?

Mae angen cynefino ar bob gweithiwr. Serch hynny, bydd y rhaglenni’n amrywio o un i’r llall a bydd angen mwy neu lai o wybodaeth ymhob achos.

Yn aml bydd pobl sy’n cael eu dyrchafu o fewn yr adran yn elwa ar ryw fath o raglen gynefino wrth ymgymryd â’r swydd newydd. Mae’n hawdd anghofio hyn.

Bydd angen rhyw fath o raglen gynefino hefyd ar bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl seibiant neu absenoldeb hirdymor (gan gynnwys cyfnodau mamolaeth) hyd yn oed pan fyddant yn dychwelyd i swydd yr union yr un fath.

Beth sy’n digwydd pan na gynigir rhaglen gynefino effeithiol?

Mae perygl go iawn na fydd yr aelodau newydd o staff yn meithrin ond dealltwriaeth elfennol o’r sefydliad a’r rhan y byddant yn chwarae ynddo; mae’n bosib hefyd na fyddant yn deall yn iawn beth ddisgwylir ohonynt. Gallai hynny arwain at:

  • Ddiffyg ymrwymiad i’r Ysgol
  • Cysylltiadau gwael â chydweithwyr
  • Gwaith o ansawdd gwael.

Mewn achosion eithriadol gallai olygu bod y gweithiwr newydd yn ymddiswyddo neu’n colli ei swydd.

Mae hynny yn ei dro yn arwain at:

  • Gostau recriwtio ychwanegol
  • Gwastraffu amser y rheolwr
  • Digalonni’r staff sydd ar ôl
  • Amharu ar gofnod cyflogaeth y gweithiwr sy’n gadael
  • Niweidio enw da’r Ysgol

Ydy’r gweithiwr yn deall y disgwyliadau o ran perfformiad?

Dylid mynd ati’n ofalus i esbonio’r disgwyliadau o ran perfformiad y gweithiwr newydd, a hynny o’r cychwyn cyntaf. Mae llawer o sefydliadau’n esgeuluso hyn pan fydd gweithiwr newydd yn dechrau. Serch hynny, mae’r dystiolaeth yn awgrymu’n gryf fod pobl yn perfformio’n well pan maent yn gweithio yn ôl disgwyliadau pendant, ac yn llawer mwy bodlon yn eu swyddi.

Beth ddylid ei gynnwys yn y rhaglen gynefino?

Un o’r anawsterau mwyaf y mae llawer o weithwyr newydd yn ei wynebu yw’r ffaith bod yr holl wybodaeth yn eu llethu’n ddigon sydyn. Mae gofyn iddynt ddysgu cymaint o bethau, ac felly mae’n gallu bod yn anodd penderfynu ble i ddechrau. Pan fydd gweithiwr newydd yn ymuno â’ch tîm, defnyddiwch y rhestr wirio hyn i’ch helpu.