Cymhwysedd

Ar ôl i chi gael eich penodi efallai y disgwyl i chi ddilyn hyfforddiant, ennill cymhwyster neu gyrraedd safonau galwedigaethol er mwyn cyflawni eich dyletswyddau. Os bydd gofyn i chi wneud hynny byddwch yn gorfod bodloni’r gofynion perthnasol o fewn amser penodol i’w osod gan y Cyngor. Hefyd bydd angen i rai staff ddilyn datblygiad proffesiynol parhaus o dan adain sefydliadau proffesiynol. Lle bo hynny’n berthnasol mi wnaiff y Cyngor roi’r adnoddau i chi wneud hynny. Os na fyddwch chi’n cydymffurfio a’r gofynion uchod gallech chi golli’ch swydd.