Taliad

Telir un rhan o ddeuddeg o’ch cyflog blynyddol yn ogystal â’ch lwfansau bob mis ar ddiwrnod gwaith olaf pob mis.
Bydd y taliadau i gyd yn cael eu gwneud trwy drosglwyddiad uniongyrchol i fanc neu gymdeithas adeiladu o’ch dewis chi. Os bydd eich manylion banc yn newid, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i adain y gyflogres am y newid. Hysbysu’r gyflogres o’r newid drwy lenwi’r ffurflen Newid Manylion Banc. Mae angen llofnod gwreiddiol arnom i brosesu’r ffurflen hon.

Gellir adennill unrhyw ordaliad o gyflog. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio pob slip tâl a rhoi gwybod i adain y gyflogres ynglŷn ag unrhyw gamgymeriadau posibl.
Mae staff yn gallu cyrchu fersiynau electronig o’u slipiau tâl ar-lein. Mae nifer o fanteision i’r staff o gynnig y gwasanaeth hwn ar-lein. Gyda phorwr gwe, gall y gweithiwr gyrchu slipiau tâl cyfredol a hanesyddol yn y gwaith neu gartref 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Yn ogystal, bydd hefyd yn lleihau’r costau gweinyddol ac yn peri llai o niwed i’r amgylchedd.

Tâl Dechreuol ar ôl Penodi

Fel rheol y cyflog dechreuol ar gyfer pob penodiad (recriwtiaid newydd, gweithwyr sy’n trosglwyddo o fewn y sefydliad a gweithwyr sy’n cael dyrchafiad) yw pwynt cyntaf y radd newydd. O dan rai amgylchiadau gall fod modd cymeradwyo cyflog cychwynnol sy’n uwch na’r lleiafswm. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.

Mae’r strwythur Tâl a Graddio yn cynnwys 16, fel y dangosir isod.

Bydd y rhai sy’n gymwys i gael cynyddiad fel arfer yn cael eu dyfarnu ar 1Ebrill bob blwyddyn neu ar ôl 6 mis os cânt eu penodi i swydd newydd ar unrhyw adeg rhwng 1Hydref a 31ain Mawrth mewn unrhyw un flwyddyn.