Taflenni Amser

Dogfennau i’w Lawrlwytho


Beth yw taflen amser?

Defnyddir taflenni amser fel ffordd o recordio oriau a weithir dros eich oriau contract arferol, fodd bynnag bydd rhai meysydd gwasanaeth yn defnyddio taflenni amser i recordio oriau contract arferol hefyd.

Noder: Mae taflen amser yn wahanol i ffurflen fflecsi.

 

Sut ddylwn i gyflwyno fy nhaflen amser?

Gofynnir i staff gyflwyno eu taflenni amser trwy dodl.

Mae fideo ar sut i gyflwyno eich taflen amser trwy dodl i’w weld isod.

.

Dylech chi gyflwyno’r daflen amser er mwyn i’ch rheolwr llinell ei ddilysu ar ddiwrnod gwaith olaf y mis. Sicrha hyn amser digonol i’ch rheolwr llinell i gadarnhau ac awdurdodi’r daflen amser ac yn osgoi unrhyw oedi yn y broses dalu.

Pan dych chi’n cyflwyno’ch taflen amser dylech sicrhau eich bod wedi’i arwyddo a’i ddyddio. Mae hyn yn gam pwysig yn y broses o’i awdurdodi ac os nad ydyw wedi’i arwyddo yna fe’i dychwelir atoch chi a gallai achos oedi yn y broses dalu.

Cedwir eich taflenni amser yn electronig yn ein system Adnoddau Dynol / Cyflogres ac felly does dim angen i chi gadw eich copïau eich hunain.

 

Pa fath ar daflen amser ddylwn i ddefnyddio?

O 1 Mehefin 2020 dim ond y ‘Daflen Amser Gorfforaethol’ y dylech ei defnyddio. Mae hwn yn dempled taflen amser newydd sydd wedi’i gyflwyno i sicrhau cysondeb ar draws y Cyngor.

Gellir lawrlwytho’r daflen amser ar gyfer pob mis o’r dudalen hon.

 

Pa mor aml ddylwn i gwblhau fy nhaflen amser?

Dylech gwblhau taflen amser bob mis, ar gyfer yr wythnosau sydd wedi’u cynnwys yn y daflen amser honno.

 

Beth yw fy oriau contract?

Oriau contract yw’r oriau yr ydych wedi’ch contractio i weithio bob wythnos. Bydd hwn wedi nodi ar eich datganiad o fanylion (eich contract cyflogaeth) a dderbynioch pan ddechreuoch yn eich swydd.

 

Beth os oes gen i fwy nag un swydd?

Os oes gennych nifer o swyddi gyda’r Cyngor yna dylech chi lenwi taflenni amser gwahanol ar gyfer pob swydd. Mae hyn i sicrhau eich bod yn cael eich talu ar y gyfradd gywir a’i fod wedi’i gostio i’r tîm / maes gwasanaeth perthnasol.

 

Sut ydw i’n cwblhau fy nhaflen amser?

Mae’r Daflen Amser Corfforaethol yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:

Ar dop y ffurflen:

  • Eich manylion chi a manylion eich swydd
  • Cofiwch roi Ie neu Na i nodi os ydych chi’n cofnodi oriau cytundebol ar y daflen amser

Ar gyfer pob wythnos:

  • Eich oriau cytundebol ar gyfer yr wythnos honno (y golofn gyntaf)
  • Cyfanswm yr oriau a weithiwyd rhwng 9pm a 6am ar gyfer yr wythnos (y golofn olaf)

Ar gyfer pob diwrnod:

  • Yr amseroedd dechrau a gorffen gwaith
  • Yr oriau a weithiwyd gennych – a ddylai eithrio unrhyw seibiannau
  • Manylion unrhyw wrth gefn, os yn berthnasol
  • Unrhyw sylwadau fel absenoldeb, manylion costio neu weithio ar radd uwch

Bydd eich rheolwr llinell yn eich hysbysu o sut i gwblhau’r daflen amser os oes angen unrhyw help arnoch chi.

Nodwch y dylid nodi’r holl oriau ar ffurf niferol. Mae’r tabl ar gefn y daflen amser yn gosod munudau mewn cyfatebiaeth ddegol i’ch helpu i gwblhau’r daflen amser

Esiamplau:

  • 5 awr a 15 munud = 5.25
  • 3 awr a 10 munud = 3.17
  • 4 awr a 50 munud = 4.83

 

Beth os fydd fy shifft yn croesi 2 ddiwrnod?

Dylai unrhyw shifftiau sy’n ymestyn tu hwnt i ganol nos gael eu cofnodi ar y dyddiadau y’i gweithir.

Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio rhwng 9yh tan 6yb yna dylech gofnodi 3 awr (9yh tan ganol nos) ar y diwrnod cyntaf, a 6 awr (canol nos tan 6yb) ar yr ail ddiwrnod.

Esiampl yw’r enghraifft uchod yn unig ac nid yw’n cynnwys y saib angenrheidiol.

 

Beth yw fy nyletswyddau wrth gwblhau a chyflwyno taflenni amser?

Wrth gyflwyno taflen amser mae’n ddyletswydd ar yr aelod staff i sicrhau’r canlynol:

  • Bod y daflen amser wedi’i chwblhau’n gywir ac yn onest
  • Bod yr wybodaeth wedi’i gofnodi mewn llawysgrifen glir yn y colofnau cywir
  • Bod unrhyw seibiannau wedi’u tynnu ymaith o’r golofn ‘cyfanswm oriau’
  • Eich bod wedi arwyddo a dyddio’r daflen amser

 

Beth sy’n digwydd wedi i fi gyflwyno fy nhaflen amser?

Bydd eich rheolwr llinell yn cadarnhau eich taflen amser ac yn sicrhau ei bod yn adlewyrchiad cywir o’r oriau a weithioch. Os oes gan eich rheolwr llinell unrhyw ymholiadau ynghylch eich taflen amser byddant yn eu codi gyda chi’n uniongyrchol.

Unwaith y byddant wedi cadarnhau eich taflen amser byddant yn ei awdurdodi ac yn ei basio ymlaen at y tîm Cyflogres i’w brosesu. Os cyflwynir y taflenni amser ar amser yna gallwch ddisgwyl cael eich talu am y daflen amser honno yn y mis yn dilyn mis cyflwyno’r daflen amser. Er enghraifft, os gyflwynwch chi daflen amser ar gyfer mis Ebrill ar ddiwedd mis Ebrill yna gallwch ddisgwyl cael eich talu am y gwaith a nodir arni ar eich slip talu ym mis Mai.

 

Cwestiynau a gwybodaeth bellach
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cwblhau neu gyflwyno eich taflen amser cysylltwch â’ch rheolwr llinell yn gyntaf.