Sut i Wella / Ychwanegu / Diwygio Hawliadau Treuliau
Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld, ychwanegu a diwygio’r wybodaeth am eich Tâl a Buddiannau ar system hunan-wasanaeth Ceri.
Ychwanegu cais am Gostau Teithio a Threuliau
- Er mwyn ychwanegu cais am gostau teithio cliciwch ar y botwm Ychwanegu cais
- Bydd ffenestr newydd yn ymddangos yn awr a bydd gofyn i chi gwblhau’r canlynol:
- Dyddiad Dechrau: Y dyddiad dechrau yw dyddiad cyntaf y mis yr ydych yn gwneud cais amdano neu ddyddiad cychwyn eich cyflogaeth os ydych yn gwneud cais am y mis hawlio hwnnw
- Teitl y Swydd: Dewiswch y teitl swydd perthnasol o’r gwymplen y mae’r cais yn berthnasol iddo
- Templed Cais: Dewiswch Mileage Claim o’r gwymplen
- Cliciwch ar Newydd ar ôl cwblhau’r meysydd i gyd
- Bydd ffenestr Milltiroedd a Threuliau yn ymddangos i chi ei llenwi
- Dilynwch y canllawiau ar y sgrin ar sut i gwblhau pob tudalen sy’n rhan o’r cais
Nodyn: Dylech gyflwyno un cais yn unig am bob mis calendr a dim ond dyddiadau yn y mis hwnnw ddylai fod ar y cais hwnnw
Cadw Cais am Gostau Teithio
Mae’n bosibl cadw cais am gostau teithio a pheidio â’i gyflwyno
- Cliciwch ar Cadw drafft ar unrhyw adeg yn ystod y mis hawlio
- Statws Dros Dro fydd i’ch cais bryd hyn a bydd yn bosibl mynd ato rywbryd eto er mwyn diwygio/ychwanegu llinellau i’r cais cyn ei gyflwyno.
Cyflwyno Cais am Gostau Teithio
Er mwyn cyflwyno cais am gostau teithio yn ôl y filltir bydd gofyn i chi:
- Glicio ar Cyflwyno ar y ffurflen hawlio
- Gofynnir i chi roi eich cyfrinair i mewn – yr un cyfrinair â’ch cyfrinair Ceri yw hwn
- Dylai statws Aros am Awdurdodiad fod i’ch cais am gostau teithio yn awr yn barod i’w awdurdodi a bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at y rheolwr a’r gweithiwr
- Rhaid i chi lanlwytho derbynebau am gostau teithio i Ceri
- Cliciwch ar y clip papur glas ar y cerdyn perthnasol ar ôl cyflwyno’r Cais am Gostau Teithio
- Rhowch deitl sy’n berthnasol i’r cais ar y dderbynneb sy’n gysylltiedig â’r costau teithio
- Cliciwch ar Browse
- Ewch i leoliad y ffeil
- Dewiswch y ddogfen a gadwyd ac yn cliciwch Ychwanegu
Nodyn: Mae’n bosibl ychwanegu derbynebau ar ôl i’r cais gael ei awdurdodi
Diwygio Cais am Gostau Teithio a Gyflwynwyd
Pan fydd cais am gostau teithio wedi’i gyflwyno a bod iddo statws Aros am Awdurdodiad, mae’n bosibl diwygio’r cais o hyd
- Cliciwch ar y cais am gostau teithio perthnasol
- Cliciwch Canslo
- Bydd y cais am gostau teithio yn mynd yn ôl i’w statws Dros Dro a bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at y rheolwr a’r gweithiwr
- Cliciwch ar y Cais am Gostau Teithio perthnasol unwaith eto er mwyn ei ddiwygio
- Cliciwch ar Cyflwyno
- Bydd y cais am gostau teithio yn mynd yn ôl unwaith eto i’w statws Aros am Awdurdodiad
Chwilio am Gais am Gostau Teithio
Er mwyn chwilio am geisiadau am gostau teithio a awdurdodwyd:
- Cliciwch ar y Chwyddwydr wrth ymyl Ychwanegu Cais
- Cliciwch ar Chwilio i adalw pob cais neu gallwch ddewis ystod o ddyddiadau er mwyn adalw ceisiadau penodol