Sut i Edrych / Ychwanegu / Diwygio Hawliadau Adleoli

Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld, ychwanegu a diwygio’r wybodaeth am eich Tâl a Buddiannau ar system hunan-wasanaeth Ceri.

 

Ychwanegu Cais am Gostau Adleoli

  • Cliciwch ar y botwm Ychwanegu Cais er mwyn ychwanegu Cais am Gostau Adleoli
  • Bydd ffenestr newydd yn ymddangos yn awr a bydd gofyn i chi gwblhau’r canlynol:

    • Dyddiad Dechrau: Y dyddiad dechrau yw dyddiad cyntaf y mis yr ydych yn gwneud cais amdano neu ddyddiad cychwyn eich cyflogaeth os ydych yn gwneud cais am y mis hawlio hwnnw
    • Teitl y Swydd: Dewiswch y teitl swydd perthnasol o’r gwymplen y mae’r cais yn berthnasol iddo
    • Templed Cais: Dewiswch Relocation Expenses Claim o’r gwymplen
      • Cliciwch ar Newydd ar ôl cwblhau’r meysydd i gyd
    • Bydd y Cais am Gostau Adleoli yn awr yn barod i’w gyflwyno i’w gwblhau
    • Dilynwch y canllawiau ar y sgrin ar sut i gwblhau pob tudalen sy’n rhan o’r cais
       

Nodyn:   Dylech gyflwyno un cais yn unig am bob mis calendr a dim ond dyddiadau yn y mis hwnnw ddylai fod ar y cais hwnnw

Cadw Cais am Gostau Adleoli

Mae’n bosibl cadw Cais am Gostau Adleoli a pheidio â’i gyflwyno

  • Cliciwch ar Cadw Drafft ar unrhyw adeg yn ystod y mis hawlio
  • Statws Dros Dro fydd i’ch cais bryd hyn a bydd yn bosibl mynd ato rywbryd eto er mwyn diwygio/ychwanegu llinellau i’r cais cyn ei gyflwyno

Cyflwyno Cais am Gostau Adleoli

Er mwyn Cyflwyno eich cais am Gostau Adleoli bydd gofyn i chi:

  • Glicio ar Cyflwyno ar y ffurflen hawlio
  • Gofynnir i chi roi eich cyfrinair i mewn – yr un cyfrinair â’ch cyfrinair Ceri yw hwn
  • Dylai statws Aros am Awdurdodiad fod i’ch Cais am Gostau Adleoli yn awr yn barod i’w Awdurdodi a bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at yr adran Adnoddau Dynol a’r gweithiwr
  • Nid yw derbynebau am danwydd yn cael eu lanlwytho i Ceri ond dylech eu rhoi yn y man casglu priodol

Diwygio Cais am Gostau Adleoli a Gyflwynwyd

Pan fydd cais am Gostau Adleoli wedi’i gyflwyno a bod iddo statws Aros am Awdurdodiad mae’n bosibl diwygio’r cais o hyd

  • Cliciwch ar y Cais am Gostau Adleoli perthnasol
  • Cliciwch Canslo
  • Bydd y Cais am Gostau Adleoli yn mynd yn ôl i’w statws Dros Dro a bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon at yr adran Adnoddau Dynol a’r gweithiwr
  • Cliciwch ar y Cais am Gostau Adleoli unwaith eto er mwyn ei ddiwygio
  • Cliciwch ar Cyflwyno
  • Bydd y Cais am Gostau Adleoli yn mynd yn ôl unwaith eto i’w statws Aros am Awdurdodiad

Chwilio am Gais am Gostau Adleoli

Er mwyn chwilio am Gais am Gostau Adleoli a awdurdodwyd:

  • Cliciwch ar y Chwyddwydr wrth ymyl Ychwanegu Gais
  • Cliciwch ar Chwilio i adalw pob cais neu gallwch ddewis ystod o ddyddiadau er mwyn adalw ceisiadau penodol