Sut i gweld ‘Cerbydau Preifat’
Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld y wybodaeth am eich Cerbydau Preifat yn yr adran manylion Personol ar system hunan-wasanaeth Ceri.
Ychwanegu Cerbydau Preifat
Mae’n bosibl ychwanegu manylion cerbyd preifat yn yr adran Cerbydau Preifat. Mae’n rhaid ychwanegu’r manylion hyn cyn cyflwyno unrhyw gais am gostau teithio yn ôl y filltir.
- Er mwyn ychwanegu cerbyd cliciwch ar y botwm Ychwanegu Cerbyd
- Cwblhewch y meysydd canlynol:
- Math o Gerbyd – Dewiswch o’r gwymplen
- Rhif Cofrestru’r Cerbyd – Rhif cofrestru eich cerbyd yw hwn
- Dyddiad Dechrau – Dylech nodi dyddiad prynu’r cerbyd yma, a rhaid iddo fod cyn y dyddiad hawlio
- Dyddiad Gorffen – Dylech nodi’r dyddiad hwn dim ond os ydych wedi gwerthu’r cerbyd (yna, bydd dyddiad dechrau newydd yn gysylltiedig ag unrhyw gerbyd newydd)
- Maint yr Injan – dylid nodi cc yr injan yma e.e. dylech nodi 2000 ar gyfer injan 2 litr
- Math o Danwydd – Dewiswch o’r gwymplen
- Cerbyd diofyn ar gyfer Treuliau – Ticiwch y blwch yma er mwyn nodi mai hwn yw eich cerbyd arferol (os ydych wedi cofrestru nifer o gerbydau, hwn ddylai fod y prif gerbyd)
- Cliciwch Cadw
Nodyn: Wrth ychwanegu cerbyd newydd, dylech ystyried diddymu eich cerbyd blaenorol os nad yw’n cael ei ddefnyddio bellach. Peidiwch â dileu’r cerbyd hwn na diwygio Rhif Cofrestru’r Cerbyd.