Sut i Ychwanegu/Diwygio/Gweld eich Cymhwysterau
Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld y wybodaeth am eich Dysgu a Datblygu ar system hunan-wasanaeth Ceri.
Ychwanegu Cymhwyster
- Cliciwch ar Ychwanegu Cymhwyster
- Maes Pwnc: Cliciwch yn y blwch testun a dewiswch o’r gwymplen y pwnc sydd fwyaf perthnasol i’ch cymhwyster chi
- Lefel Cymhwyster: Cliciwch yn y blwch testun a dewiswch o’r gwymplen y lefel sy’n cyfateb orau i’ch cymhwyster chi
- Cymwysterau/Lefel Cymhwyster/Gradd: Teipiwch yn y blwch testun union deitl y cymhwyster sydd gennych
- Lleoliad dysgu: Nodwch lle y gwnaethoch astudio ar gyfer y cymhwyster hwn
- Dyddiad dechrau’r astudio: Nodwch ddyddiad dechrau’r astudio
- Y Dyddiad y cafwyd y cymhwyster: Nodwch y dyddiad yr enillwyd y cymhwyster
- Dyddiad yn fras: Ticiwch y blwch gwirio hwn os mai bras amcan yw’r dyddiad
Gweld/Diwygio Cymhwyster
- Cliciwch ar y cymhwyster perthnasol o’r rhestr er mwyn gweld y manylion
- Diwygiwch unrhyw fanylion ar y sgrin sy’n dangos manylion y cymhwyster a chliciwch Cadw
- Os ydych wedi nodi’r cymhwyster anghywir o ran pwnc cliciwch Dileu