Sut i Gweld/Ychwanegu/Diwygio ‘Gweithgareddau Dysgu’
Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld y wybodaeth am eich Dysgu a Datblygu ar system hunan-wasanaeth Ceri
Gweld/Ychwanegu/Diwygio Gweithgareddau Dysgu
Gallwch fynd at y dolenni canlynol yn yr adran Gweithgareddau Dysgu
- Rhestr o’r Gweithgareddau Dysgu – Mae’r rhestr Gweithgareddau Dysgu ond yn dangos unrhyw gyrsiau hyfforddiant i ddod yr ydych wedi cofrestru arnyn nhw ac unrhyw restr aros y mae eich enw arni
- Gweld Pob Gweithgaredd Dysgu – Dewiswch y gwymplen sy’n dangos Cyfredol a’i newid i Popeth Gallwch weld unrhyw fanylion pellach drwy glicio ar unrhyw gwrs ar y rhestr hon
- Canslo Gweithgaredd – Dim ond dyddiadau i ddod y gellir eu canslo a hynny drwy glicio ar y cerdyn gweithgaredd perthnasol a nodi’r rheswm am ganslo.
- Chwilio am Weithgareddau Dysgu – Cliciwch ar Chwilio’r gweithgareddau dysgu – Bydd ffenestr newydd yn codi yn gofyn i chi gwblhau’r canlynol:
- Chwilio am: Teipiwch enw’r gweithgaredd yr ydych yn chwilio amdano yn y blwch chwilio
- Dyddiad dechrau (dd/mm/yyyy): Nodwch y dyddiad yr ydych am ddechrau chwilio am y gweithgaredd
- Dyddiad gorffen (dd/mm/yyyy): Nodwch y dyddiad yr ydych am orffen chwilio am y gweithgaredd
- Dangos cyrsiau sydd ag argaeledd yn unig: Mae tic yn ymddangos yn awtomatig yn y blwch hwn er mwyn canfod dim ond y cyrsiau sydd ar gael. Os tynnwch chi’r tic o’r blwch hwn yna bydd pob cwrs yn ymddangos a gallwch roi eich enw ar restr aros ar gyfer y gweithgaredd
- Pan fyddwch yn hapus gyda’r holl wybodaeth uchod cliciwch y botwm Chwilio a bydd rhestr o weithgareddau’n ymddangos
- Ychwanegu Dysgu Personol – Os ydych yn dymuno cynnwys digwyddiadau dysgu ar eich cofnod nad ydynt yn ymddangos ar system Ceri, gallwch eu hychwanegu yma.
- Teitl y gweithgaredd: Nodwch deitl y gweithgaredd yr aethoch iddo
- Mewnol: Mae hwn yn cadarnhau a oedd y digwyddiad yn un mewnol neu beidio
- Dyddiad dechrau (dd/mm/yyyy): Nodwch ddyddiad dechrau’r digwyddiad yr aethoch iddo
- Dyddiad gorffen (dd/mm/yyyy): Nodwch ddyddiad gorffen y gweithgaredd yr aethoch iddo
-
- Oriau Dysgu – Ticiwch y blwch hwn i ddod o hyd i gwrs sydd ar gael yn unig. Os ydych chi’n dad-dicio’r blwch hwn yna bydd pob cwrs yn arddangos a byddwch yn gallu archebu ar restr aros ar gyfer y gweithgaredd
- Dyddiad Adnewyddu: Rhowch ddyddiad yma os oes gofyn adnewyddu’r cwrs
- Cwblhawyd: Gwnewch yn siŵr bod tic yn y blwch gwirio os yw’r cwrs wedi’i gwblhau
- Math o weithgaredd dysgu: Dewiswch y math o weithgaredd ydyw o’r gwymplen. Gadewch yn wag os nad oes unrhyw weithgaredd cyfatebol