Sut i gweld ‘Gwyliau’

Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld y wybodaeth am eich absenoldebau ar system hunan-wasanaeth Ceri..

Gweld eich Gwyliau

Gallwch fynd at ddolenni i’r canlynol yn yr adran Gwyliau:

  • Rhestr Wyliau – mae’r Rhestr Wyliau ond yn dangos gwyliau am y 12 mis blaenorol ac unrhyw wyliau i ddod.
    Dim ond y dyddiadau i ddod y gellir eu diwygio, a hynny drwy glicio ar y dyddiad perthnasol yn y Rhestr Wyliau a newid y Manylion Gwyliau.
    Mae archebu diwrnod llawn o wyliau yn lleihau’r Gwyliau sydd Ar Gael yn ôl gwerth eich patrwm gwaith dyddiol
    Mae archebu Rhan o’r Diwrnod yn wyliau yn lleihau’r Gwyliau sydd Ar Gael yn ôl gwerth hanner eich patrwm gwaith dyddiol

Gweld eich Gweddillion Gwyliau

  • Gweddillion Gwyliau – Mae hwn yn dangos eich hawliau gwyliau blynyddol a gwyliau banc dros gyfnod o 3 blynedd. Nodyn: mae unrhyw hawl yn cynnwys yr hyn a gariwyd ymlaen o’r flwyddyn flaenorol

Gweld Fy Nghalendr

  • Fy Nghalendr – Mae hwn yn eich galluogi i weld pob absenoldeb ar ffurf calendr. Mae hwn yn cynnwys pob math o absenoldebau, digwyddiadau dysgu a’ch patrwm gwaith

Chwilio am Wyliau

  • Chwilio am Wyliau – Er mwyn chwilio a gweld eich gwyliau blynyddol rhwng dau ddyddiad

Archebu Gwyliau Blynyddol

  • Ychwanegu Gwyliau – er mwyn archebu gwyliau blynyddol

    • Dewiswch Math o Absenoldeb o’r gwymplen
    • Dewiswch Cyfnod Gwyliau o’r gwymplen a rhowch y manylion perthnasol (y Dyddiad Gorffen yw diwrnod diwethaf yr absenoldeb ac nid y dyddiad dychwelyd i’r gwaith)
    • Cliciwch Cadw