Sut i gweld ‘Absonoldeb eraill’

Yn yr erthygl hon ceir cyfarwyddiadau ar weld y wybodaeth am eich absenoldebau ar system hunan-wasanaeth Ceri.

Gweld Absenoldebau Eraill (Fflecsi, TOIL neu Arall)

  • Gallwch fynd at ddolenni i’r canlynol yn yr adran Arall:

Diwygio Manylion Absenoldebau Eraill

    • Rhestr Arall – dangosir manylion llawn absenoldeb drwy glicio ar unrhyw linell. Mae’n bosibl newid dyddiadau absenoldebau i ddod drwy glicio ar y dyddiad perthnasol, newid Manylion Absenoldebau Eraill a chlicio ar Cadw

Chwilio am Absenoldebau Eraill

    • Chwilio Absenoldeb Arall – er mwyn chwilio a gweld pob absenoldeb arall rhwng dau ddyddiad

Ychwanegu Absenoldeb Arall

    • Ychwanegu Arall – er mwyn trefnu absenoldeb arall

      • Dewiswch Math o Absenoldeb o’r gwymplen
      • Dewiswch Rheswm Absenoldeb o’r gwymplen
      • Dewiswch Cyfnod Absenoldeb o’r gwymplen a rhowch y manylion perthnasol (y dyddiad gorffen yw diwrnod diwethaf yr absenoldeb ac nid y dyddiad dychwelyd i’r gwaith)