Salwch

Absenoldeb Salwch

Mae’r Cyngor yn cydnabod mai ei staff yw’r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd ganddo ond os bydd rhywun yn treulio llai o amser yn y gwaith nag y mae wedi’i gontractio i’w wneud, bydd hynny’n siŵr o effeithio’n uniongyrchol ar y gwasanaeth sydd ar gael i’r cyhoedd a gall absenoldeb oherwydd salwch roi pwysau mawr ar adnoddau prin y Cyngor.

Os byddwch yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch bydd yn rhaid i chi ddilyn y drefn a amlinellir ym Mholisi Absenoldeb Oherwydd Salwch y Cyngor, ac fe gewch chi gopi o hwnnw gan eich Rheolwr Llinell, yr Adain Adnoddau Dynol neu yma.  Mae taflen ar gael yma ynglŷn â’r drefn y dylid ei dilyn os byddwch yn absennol oherwydd salwch a dylai honno ateb unrhyw gwestiynau cyffredinol sydd gennych. Oni fyddwch yn dilyn y Polisi Absenoldeb Oherwydd Salwch fe allech chi wynebu camau disgyblu. Dylid nodi mai’r uchafswm sydd wedi ei nodi fel yr hawl dan gontract i dâl salwch. Os yw’n amlwg bod yr absenoldeb yn debygol o fod am gyfnod hir efallai na fydd yn rhesymol parhau â’r gyflogaeth am gyfnod llawn yr hawl. Dylid nodi hefyd y gellir cyfeirio’r staff at wasanaeth iechyd galwedigaethol yr Awdurdod ar unrhyw adeg yn ystod eu cyflogaeth.

Tâl Salwch

Os byddwch yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch, anaf neu anabledd arall, bydd hawl gennych i lwfans hyd at y symiau uchaf isod:

Y flwyddyn 1af o wasanaeth Hyd at fis ar gyflog llawn ac ar ôl 4 mis o wasanaeth hyd at 2 fis ar hanner cyflog
Yr 2il flwyddyn o wasanaeth Hyd at 2 fis ar gyflog llawn a 2 fis ar hanner cyflog
Y 3edd flwyddyn o wasanaeth Hyd at 4 fis ar gyflog llawn a 4 fis ar hanner cyflog
Y 4edd a’r 5ed flwyddyn o wasanaeth Hyd at 5 fis ar gyflog llawn a 5 fis ar hanner cyflog
Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth Hyd at 6 fis ar gyflog llawn a 6 fis o hanner cyflog

(Gwasanaeth = gwasanaeth di-dor yn ôl diffiniad cytundebau cenedlaethol eich grŵp cyflogaeth).

Rhoi Gwybod Eich Bod yn Absennol Oherwydd Salwch

absencenotification_cym

Siart Lif ynglŷn â Rhoi Gwybod Eich Bod yn absennol Oherwydd Salwch

absencenotification2_cym