Absenoldeb Mamolaeth a Thâl

Mae cynllun mamolaeth y Cyngor yn gweithredu ochr yn ochr â’r Cynllun Tâl Mamolaeth Statudol.  Mae hawl gan bob menyw feichiog, ni waeth faint o wasanaeth sydd ganddynt, i gael amser o’r gwaith â thâl ar gyfer gofal cyngeni a hyd at 52 o wythnosau o absenoldeb mamolaeth a fydd yn dechrau ddim cynharach nag 11 o wythnosau cyn yr wythnos y disgwylir i’r babi gael ei eni.

Mae lefelau tâl mamolaeth yn dibynnu ar enillion a hyd gwasanaeth di-dor llywodraeth leol. Os nad ydych yn gymwys o dan y Cynllun Absenoldeb a Thâl Mamolaeth Galwedigaethol mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael y Tâl Mamolaeth Statudol.

Cewch ragor o fanylion ynghylch Absenoldeb Mamolaeth a Thâl yn y Polisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith ond gallai’r wybodaeth isod fod yn ddefnyddiol i chi.

Rhoi Gwybod

mamolaeth

Hawl

mamolaeth2

Gofal Cyn Geni

Bydd gennych hawl i amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cyn geni. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ddangos cerdyn apwyntiadau neu ryw ddogfen arall i’ch rheolwr llinell i gadarnhau pob apwyntiad heblaw am yr un cyntaf. Nid yw gofal cyn geni wedi’i gyfyngu i archwiliadau meddygol yn unig a gallai gynnwys dosbarthiadau rhianta ac ymlacio os yw’r rheiny wedi eu hargymell i chi gan ymarferydd meddygol cofrestredig, bydwraig gofrestredig neu ymwelydd iechyd cofrestredig.

O 1 Hydref 2014 ymlaen, bydd gan eich gŵr, partner sifil, partner, tad y plentyn yr ydych yn ei ddisgwyl os nad yw eisoes wedi ei enwi uchod, rhiant neu ddarpar riant mewn sefyllfa lle genir plant ar ran pobl eraill sy’n cyflawni amodau penodol, hawl i gymryd amser o’r gwaith â thâl ar hyd at ddau achlysur ac am hyd at chwe awr a hanner ar bob un o’r achlysuron hynny i fynd i’r apwyntiadau cyn geni gyda chi.

Iechyd a Diogelwch

Mae rhwymedigaeth ar y Cyngor i gynnal asesiad risg pan gaiff wybod eich bod yn feichiog. Ar ôl cynnal yr asesiad hwnnw, bydd yn rhaid cymryd camau priodol i leihau unrhyw risgiau a nodir. Caiff yr asesiad risg ei gynnal gan unigolyn cymwys / profiadol yn yr adran lle cyflogir chi neu gan adain Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yr awdurdod. Dylid nodi y gwaherddir chi rhag gweithio am bythefnos ar ôl geni eich plentyn.

Diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad

Trwy gytundeb rhwng y cyflogwr a’r gweithiwr, gall y gweithiwr weithio hyd at 10 diwrnod o dan eu contract gwaith yn ystod cyfnod yr absenoldeb mamolaeth.  Mae’r math o waith y bydd y gweithiwr yn ei wneud ar ddiwrnodau cadw mewn cysylltiad yn fater i’w gytuno rhwng y naill a’r llall.  Gellir defnyddio’r diwrnodau hyn ar gyfer unrhyw weithgaredd a fyddai’n waith arferol y byddai’r fenyw yn cael ei thalu amdano yn unol â’i chontract. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol iawn o ran galluogi menyw i fynd i gynhadledd, hyfforddiant neu i gyfarfod tîm. Bydd unrhyw waith a wneir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod mamolaeth yn cyfrif fel diwrnod cadw mewn cysylltiad cyfan hyd at yr uchafswm o 10 diwrnod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Polisi Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith.

Cwestiynau Cyffredin

Questions

Pryd dylwn i roi gwybod i’m rheolwr llinell fy mod i’n feichiog?

Rydym yn argymell eich bod yn rhoi gwybod i’ch rheolwr llinell eich bod yn feichiog cyn gynted ag y bo modd fel y gallwch chi gael amser o’r gwaith â thâl i fynd i apwyntiadau/dosbarthiadau cyn geni ac fel y gall eich rheolwr llinell drefnu asesiad risg.

Pryd ddylwn i roi gwybod i’r Adain Adnoddau Dynol Corfforaethol am fy mwriad i gymryd absenoldeb mamolaeth?

Mae’n ofynnol i chi roi gwybod i’r Adain Adnoddau Dynol Corfforaethol o’ch bwriad i gymryd absenoldeb mamolaeth o leiaf 15 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i chi roi genedigaeth. Dylech wneud hynny trwy gyflwyno Ffurflen Gais am Absenoldeb Mamolaeth ynghyd â’ch tystysgrif MAT B1 (a roddir fel arfer gan eich Bydwraig). Os penderfynwch chi newid y diwrnod yr ydych yn bwriadu dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth, bydd yn rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd i’r Adain Adnoddau Dynol Corfforaethol, oni bai na fyddai hynny’n ymarferol resymol.

Pryd caf i ddechrau fy absenoldeb mamolaeth?

Yr 11eg wythnos cyn y disgwylir i’ch babi gael ei eni yw’r cynharaf y gallwch chi ddechrau ar eich absenoldeb mamolaeth. Os byddwch chi’n absennol o’r gwaith yn ystod y pedair wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i chi roi genedigaeth oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’r beichiogrwydd, mae’n bosibl y bydd hynny’n arwain at ddechrau ar eich absenoldeb mamolaeth yn gynnar.

Pryd bydd fy nhâl mamolaeth yn dechrau?

Yr 11eg wythnos cyn y disgwylir i’ch plentyn gael ei eni yw’r cynharaf y gallwch gael tâl mamolaeth, yn unol â’r trefniadau ar gyfer absenoldeb mamolaeth. Cewch eich tâl mamolaeth pan fyddwch yn dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth.

A fydd gennyf yr hawl i amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer Gofal Cyn Geni?

Mae hawl statudol gan bob menyw feichiog i amser i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cyn geni, beth bynnag yw hyd eu gwasanaeth neu nifer yr oriau y maent yn eu gweithio. Ar ôl eich apwyntiad cyntaf, dylech ddangos eich cerdyn apwyntiadau i’ch rheolwr llinell a thrafod eich anghenion chi o ran cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, fel y bydd gan eich rheolwr llinell ddigon o amser i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer y cyfnod y byddwch yn absennol. O dan amgylchiadau eithriadol, mae’n bosibl y bydd eich rheolwr llinell yn gofyn i chi newid amser eich apwyntiad os yw’n anghyfleus i’r adran a dylech gydymffurfio â hynny os yw hynny’n ymarferol.

Beth fydd yn digwydd os caiff fy mabi ei eni’n gynnar?

Fel arfer, nid effeithir ar absenoldeb a thâl mamolaeth os caiff eich baban ei eni ar ôl dyddiad dechrau eich absenoldeb mamolaeth. Os caiff eich babi ei eni ar ôl yr 11eg wythnos cyn yr wythnos yr oedd disgwyl i’r plentyn gael ei eni, ond cyn y dyddiad yr oeddech yn bwriadu dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod ar ôl yr enedigaeth.

Beth fydd yn digwydd os collaf fy swydd cyn dechrau ar fy Nhâl Mamolaeth Statudol?

Os byddwch yn colli eich swydd neu’n rhoi’r gorau i’ch gwaith cyn yr wythnos gymhwyso (y 15fed wythnos cyn geni’r babi) ni fydd hawl gennych i’r Tâl Mamolaeth Statudol. Os byddwch chi’n colli eich gwaith neu’n rhoi’r gorau i’ch gwaith ar ôl yr wythnos gymhwyso, bydd hawl gennych i’r Tâl Mamolaeth Statudol.

Faint o rybudd sydd angen imi ei roi i’m cyflogwr os byddaf yn dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd fy absenoldeb mamolaeth

Os byddwch yn dymuno dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd yr absenoldeb mamolaeth a gytunwyd, bydd angen i chi roi 21 diwrnod o rybudd i’ch rheolwr llinell i’w hysbysu ynghylch y dyddiad newydd y byddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith. Dylai’r staff drafod y dyddiad y byddant yn dychwelyd i’r gwaith gyda’u rheolwr llinell cyn gynted ag y bo modd, fel y gellid rhoi trefniadau addas ar waith. Os ydych chi’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd cyfnod yr absenoldeb mamolaeth llawn, ni fydd angen i chi ein hysbysu ymhellach am hynny.

Beth sy’n digwydd os nad oes hawl gennyf i dâl mamolaeth o gwbl?

Er mwyn bod yn gymwys am absenoldeb mamolaeth, beth bynnag fo’ch cyflog, bydd angen i chi roi gwybod i’ch rheolwr llinell ynglŷn â’ch bwriadau chi o ran eich beichiogrwydd yn ysgrifenedig. Efallai y bydd hawl gennych i Lwfans Mamolaeth, sydd ar gael o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Cewch ffurflen SMP1 o adain y gyflogres i chi ei llanw, a chyda honno gallwch wneud cais uniongyrchol am Lwfans Mamolaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Faint o Dâl Mamolaeth Statudol a gaf i os byddaf yn rhoi genedigaeth i fwy nag un plentyn?

Un Tâl Mamolaeth Statudol a gewch chi faint bynnag o blant a gaiff eu geni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer pob plentyn. Cysylltwch â’r Asiantaeth Fudd-daliadau’n lleol am fwy o fanylion.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn sâl ar ddiwedd fy absenoldeb mamolaeth?

Bydd arnoch angen tystysgrif salwch gan y meddyg. Bydd y cofnodion wedyn yn dangos eich bod wedi dychwelyd o’ch absenoldeb mamolaeth a’ch bod yn awr ar absenoldeb oherwydd salwch a bydd angen i chi ddilyn gweithdrefnau arferol y gwasanaeth ar gyfer rhoi gwybod eich bod yn absennol oherwydd salwch.

A gaf i ddychwelyd yn rhan amser neu rannu swydd?

Petaech chi’n dymuno gwneud cais i weithio’n hyblyg ar ôl yr absenoldeb mamolaeth / mabwysiadu, byddai angen i chi wneud hynny’n unol â Pholisi  Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith yr Awdurdod. Gallai’r opsiynau gynnwys gweithio’n rhan amser neu rannu swydd, petai’r opsiynau hynny’n briodol a’u bod ar gael ac yn gydnaws ag anghenion y gwasanaethau a ddarperir. Fodd bynnag, os na cheir cytundeb o’r math hwnnw, bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch swydd flaenorol o dan yr un telerau ac amodau.

Os byddaf yn penderfynu bwydo ar y fron ac yn dymuno parhau i wneud hynny ar ôl dychwelyd i’r gwaith, a fydd modd imi wneud hynny yn y gwaith?

Os byddwch wedi penderfynu bwydo eich babi ar y fron, ni fydd angen i chi roi’r gorau i fwydo ar y fron ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith. Os ydych chi’n bwriadu parhau i fwydo ar y fron  ar ôl i chi ddychwelyd i’r gwaith, dylech roi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig. Dylech chi wneud hynny cyn i chi ddychwelyd i’r gwaith fel y gallwn ni sicrhau eich bod yn dychwelyd i amgylchedd iach, diogel ac addas. Ar ôl i chi roi gwybod i’ch rheolwr, cynhelir asesiad risg penodol. Byddwn yn gwneud ein gorau glas, yn unol â’r hyn y mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ei argymell, i ddarparu amgylchedd preifat, iach a diogel ar eich cyfer. Byddwn hefyd, fel y nodir yn Rheoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992, yn darparu cyfleusterau addas i chi orffwys, a lle bo angen, yn cynnig man i chi orwedd.

A gaf i fynd yn ôl ar absenoldeb mamolaeth ar ôl dychwelyd i’r gwaith os yw’n dal i fod o fewn cyfnod yr absenoldeb mamolaeth?

Na chewch. Wrth gwrs, os byddwch yn beichiogi eto, bydd eich hawliau o ran absenoldeb mamolaeth sy’n gysylltiedig â’r beichiogrwydd hwnnw’n dod i rym.

A fydd hawl gennyf o hyd i Wyliau Blynyddol a Gwyliau Banc?

Bydd eich hawl chi i Wyliau Blynyddol a Gwyliau Banc yn dal i gronni trwy gydol cyfnod yr absenoldeb, boed hynny â thâl neu’n ddi-dâl. Gallai fod yn fuddiol i chi a’ch rheolwr llinell pe baech chi’n cymryd gwyliau blynyddol cyn cyfnod ffurfiol yr absenoldeb mamolaeth (gyda thâl ac yn ddi-dâl) neu ar ôl hynny. Bydd yn rhaid trafod a chytuno ar faint o wyliau a gymerir yn y modd hwnnw gyda’r rheolwr a fydd yn gorfod ystyried anghenion y gwasanaeth.

A fydd yn effeithio ar fy nghyfraniadau pensiwn?

Yn ystod absenoldeb mamolaeth â thâl, bydd yr Awdurdod yn parhau i wneud  cyfraniadau pensiwn megis petaech chi’n gweithio ac yn ennill eich cyflog arferol. Yn ystod yr absenoldeb mamolaeth di-dâl, bydd eich hawliau pensiwn galwedigaethol yn dal i gronni. Os ydych chi eisoes yn gwneud cyfraniadau at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a’ch bod yn penderfynu cymryd opsiwn absenoldeb mamolaeth di-dâl, bydd yn ofynnol i chi dalu’r cyfraniadau cronedig dros gyfnod yr absenoldeb mamolaeth di-dâl. Caiff y cyfraniadau cronedig eu cymryd o’ch cyflog dros gyfnod o amser pan fyddwch chi’n dychwelyd i’ch gwaith.

Beth fyddai’n digwydd petai’r plentyn yn marw ar yr enedigaeth neu petawn ni’n colli’r plentyn cyn 24ain wythnos y beichiogrwydd?

Petaech chi’n colli plentyn cyn 24ain wythnos y beichiogrwydd, ni fyddech yn gymwys am absenoldeb mamolaeth, Tâl Mamolaeth Statudol na’r Lwfans Mamolaeth. Byddech yn parhau i fod i ffwrdd o’r gwaith am yr amser y byddai eich Meddyg Teulu a’r adran Iechyd Galwedigaethol yn ystyried yr oedd ei angen arnoch, a byddech chi ar absenoldeb salwch.

Beth fyddai’n digwydd pe bawn i’n colli’r plentyn ar ôl 24ain wythnos fy meichiogrwydd?

Pe baech chi’n colli’r plentyn ar ôl 24ain wythnos eich beichiogrwydd, byddech chi’n gymwys am absenoldeb mamolaeth, y Tâl Mamolaeth statudol a’r Lwfans Mamolaeth yn y modd arferol.

Dogfennau Defnyddiol

Ffurflen Cais am Absenoldeb a Thal Mamolaeth

Siartlif Rhoi Gwybod am Famolaeth