Absenoldeb Rhiant
Mae’r hawl i absenoldeb rhieniol di-dâl ar gael i rieni unrhyw blentyn o dan 18 oed.
Y terfyn ar faint o absenoldeb rhiant y gellir ei gymryd mewn blwyddyn yw 4 wythnos (oni bai bod y cyflogwr yn cytuno fel arall).
Oni bai bod cyflogwr yn cytuno fel arall, neu os yw’r plentyn yn anabl, dylid cymryd yr absenoldeb mewn blociau o wythnos.
Mae ‘wythnos’ yn golygu’r cyfnod y bydd gweithiwr yn ei weithio mewn wythnos fel arfer.
Mae rhagor o wybodaeth fanwl i’w gweld yn y Polisi Cydbwysedd Rhwng Bywyd a Gwaith y gellir ei weld ar Fewnrwyd y Cyngor.