Hysbysiad Preifatrwydd ynglŷn â phrosesu data personol sy’n gysylltiedig â brechu staff

Ar hyn o bryd, mae rhaglen frechu genedlaethol yn cael ei rhoi ar waith a’i bwriad yw cynnig brechiad rhag Covid-19 i bob unigolyn yng Nghymru. Mae derbyn y brechiad yn hollol wirfoddol, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn parchu hawliau ei weithwyr i dderbyn y brechlyn ai peidio.

Mae’r Awdurdod yn darparu nifer o wasanaethau lle mae gan y staff a’r defnyddwyr gwasanaeth risg uchel o ddal neu ddioddef Covid-19, a/neu risg uchel o ddatblygu cymhlethdodau iechyd difrifol pe byddent yn dod i gysylltiad â’r feirws.

Wrth i’r rhaglen frechu fynd rhagddi, mae angen i ni gynllunio ar gyfer yr adeg y bydd y staff yn dychwelyd i’w gweithleoedd arferol. Bydd y wybodaeth hon o gymorth wrth i ni sicrhau y gall pobl ddychwelyd i’r gwaith yn y ffordd fwyaf diogel posibl. O ystyried hyn, ac er mwyn medru parhau i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd sy’n arwain at y risg leiaf bosibl i’n staff a’n defnyddwyr gwasanaeth, rydym yn gofyn i’r staff roi gwybod i ni, yn wirfoddol, a ydynt wedi derbyn y brechlyn. Bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i ddiogelu ein staff a’n defnyddwyr gwasanaeth i’r graddau mwyaf posibl.

Er mwyn peidio â gwastraffu’r brechlynnau, mae’n bosibl y bydd y Bwrdd Iechyd, yn yr amgylchiadau hynny lle nad yw unigolion wedi mynychu apwyntiadau, yn cynnig slotiau brechu i bobl sydd ar eu rhestr wrth gefn. Os ydych chi’n dymuno cael eich cynnwys ar y rhestr hon, gallwch nodi hyn ar yr holiadur.

At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol?

Defnyddir eich gwybodaeth at y dibenion canlynol:

Er mwyn ein cynorthwyo â’r gwaith o gynllunio’r gweithlu (h.y. i sicrhau bod staff yn dychwelyd i’w gweithleoedd yn y ffordd fwyaf diogel)

Er mwyn paratoi adroddiadau ystadegol dienw

Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu ar sail caniatâd.

Os caiff data categori arbennig ei brosesu, caiff ei brosesu ar sail caniatâd penodol.

Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r tîm diogelu data  ar data.protection@ceredigion.gov.uk

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn darparu data personol?

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth i ni pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at at fethu â chynnig y gwasanaeth i chi.

Pa fath o wybodaeth ydym ni yn ei ddefnyddio?

Mae’n bosib y byddwn yn casglu’r mathau canlynol o ddata personol amdanoch chi er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau:

  • Enw
  • Eich rôl bresennol o fewn Cyngor Sir Ceredigion
  • Eich statws o ran y brechiad

A ydym ni’n defnyddio gwybodaeth a ddaw i law oddi wrth ffynonellau eraill?

Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn, dim ond data personol oddi wrthych chi yr ydym yn ei chasglu ac nid ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch chi oddi wrth unrhyw ffynhonnell arall.

Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Ni chaiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo y tu hwnt i’r Deyrnas Unedig.

 phwy y gellir rhannu eich gwybodaeth (yn fewnol ac allanol)?

Rydym yn rhannu ystadegau’n ddienw â’r canlynol:

  • Uwch Dîm Rheoli Cyngor Sir Ceredigion
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau lleol rhanbarthol

Os ydych chi wedi nodi eich bod yn dymuno cael eich cynnwys ar y rhestr wrth gefn ar gyfer derbyn brechlyn, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich enw â’r Bwrdd Iechyd. Mae sefyllfaoedd penodol eraill lle bydd yn rhaid, o bosib, inni ddatgelu gwybodaeth amdanoch, megis:

  • Os bydd y Cyngor yn gorfod darparu’r wybodaeth yn ôl y gyfraith
  • Os bydd yn rhaid datgelu’r wybodaeth i atal neu ganfod trosedd
  • Os bydd datgelu gwybodaeth yn allweddol er lles bywyd y person dan sylw

Caiff eich data ei gadw am hyd at flwyddyn cyn iddo gael ei ddinistrio’n gyfrinachol.