Cymorth Canser

Mae Cyngor Sir Ceredigion (‘yr Awdurdod ‘) wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth i’w holl weithwyr ac mae hefyd yn ymrwymedig i drin ei gyflogeion ag urddas a pharch, rheoli materion staffio a chyflogaeth gyda sensitifrwydd a thosturi.

Ar dudalennau gwe Macmillan ceir ystod eang o wybodaeth i’r rhai sy’n byw gyda chanser, rhai sy’n gofalu am bobl sydd â chanser a chyflogwyr sydd â staff y mae canser wedi effeithio arnynt.

Fel rhan o’r ddarpariaeth hon mae Macmillan wedi datblygu pecyn cymorth ‘Work it Out: The Essential Questions to Ask About Work’, gyda’r nod o helpu gweithwyr unigol i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt am faterion gwaith, ar bob cam o’u taith canser e.e. ymdrin ag absenoldeb o’r gwaith, paratoi i ddychwelyd i’r gwaith ac ati, y gall fod o gymorth i weithwyr yr effeithir arnynt.

Maent hefyd wedi datblygu canllaw defnyddiol i gyflogwyr o’r enw: ‘Working Through Cancer’ . Efallai y bydd rheolwyr am ystyried hyn, wrth iddynt geisio rheoli effaith canser ar y cyflogai, cydweithwyr eraill a’r Awdurdod. Mae’n ymdrin â nifer o faterion gan gynnwys sut i siarad am ganser a strategaethau i gefnogi cyflogeion y mae canser yn effeithio arnynt a’u cydweithwyr, tra’n cydnabod y bydd pob achos yn wahanol. Noda hefyd ffynonellau defnyddiol eraill o gymorth a gwybodaeth ar gyfer cyflogeion yr effeithiwyd arnynt a’r cyflogwr.

Dim ond un o blith nifer o ffynonellau cymorth i unigolion sy’n delio â chanser yw’r dogfennau hyn, ac anogir rheolwyr a staff yn gryf hefyd i geisio cymorth ac arweiniad gan y llu o ffynonellau sydd ar gael o fewn yr Awdurdod e.e. Adnoddau Dynol, Cwnsela, ac ati.

 

RHEOLI CANSER YN Y GWEITHLE   

Cydnabydda’r Awdurdod bwysigrwydd cefnogi cyflogeion sy’n cael diagnosis o ganser, gweithwyr sy’n gofalu am rywun sydd â chanser a chyflogeion y mae canser yn effeithio arnynt.

Darperir y canllawiau canlynol i helpu i reoli canser yn y gweithle:

Byddwch yn sensitif i anghenion eich gweithiwr

Mae bod yn sensitif ac yn gefnogol i gyflogai sydd wedi cael diagnosis o ganser yn hanfodol. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gan bob person brofiad gwahanol o ganser a fydd yn effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol, yn gorfforol ac yn emosiynol. Dylech felly edrych am y ffordd orau i chi allu diwallu eu hanghenion unigol.

 Gwrandewch, deallwch a gofynnwch

Efallai nad yw’n hawdd siarad am ganser, ond mae bod yno i rywun os ydynt yn dymuno siarad yn hanfodol. Mae’n bwysig gwrando er mwyn gallu deall sut maen nhw’n teimlo a beth allech chi ei wneud i helpu i’w cefnogi. Mae’n iawn gofyn cwestiynau pan fyddan nhw’n rhannu eu profiadau gyda chi.

Ceir canllawiau pellach ar gyfathrebu sensitif yn Adran 2 llyfryn Macmillan: ‘Working Through Cancer’.

Cefnogaeth sydd ar gael

Gweithdrefn a Chanllawiau Salwch: cliciwch yma

Cwnsela a Chefnogaeth: Care First – 0800 174 319

Macmillan yn lleol:  cliciwch yma

Llinell gefnogaeth Macmillan: 0808 808 00 00.

AD: adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk

Byddwch yn ymwybodol o ddeddfwriaeth

Diffiniwyd canser yn gyfreithiol fel anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a allai olygu bod angen i chi wneud addasiadau rhesymol. Mae holl absenoldebau salwch gweithwyr a ddosberthir yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu cofnodi fel y gwneir gydag absenoldebau’r rhai nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y rheolwr llinell/goruchwyliwr yn sefydlu pa absenoldebau sy’n gysylltiedig ag anabledd y gweithiwr. Gall hyn fod drwy ymgynghori â’r cyflogai neu gall fod angen gofyn am gyngor meddygol trwy’r Meddyg Iechyd Galwedigaethol. Ceir canllawiau pellach yma.

Parchwch breifatrwydd eich gweithiwr

Mae’n bwysig eich bod yn cytuno â’r cyflogai pa un a ydynt am rannu eu diagnosis gydag eraill ai peidio. Os yw’r cyflogai’n dymuno rhannu’r wybodaeth hon, dylech gytuno ar bwy sydd i dderbyn y wybodaeth a sut y byddent yn hoffi i hyn gael ei wneud.

Os yw’r cyflogai i fod i ffwrdd o’r gweithle, gall hefyd fod yn ddefnyddiol i gytuno ar y ffordd orau o gynnal cyswllt priodol. Dylid ymdrin â’r cyfathrebu hwn yn ofalus fel bod eich cyflogai’n teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi ond nad yw’n teimlo dan bwysau wrth ddychwelyd yn gynt nag y mae’n barod.

Materion ariannol

Bydd amser i ffwrdd ar gyfer sgrinio am ganser a thriniaeth gysylltiedig ag anabledd e.e. adsefydlu, asesiad, triniaeth, gyda thâl. Bydd angen i reolwyr llinell ystyried a oes angen addasiadau rhesymol mewn arferion gweithio. Efallai y bydd y gweithiwr yn ei chael yn ddefnyddiol i siarad yn uniongyrchol ag AD ynghylch unrhyw faterion ariannol penodol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am faterion ariannol yn Adran 4 (Tudalen 23) y canllaw Macmillan: Working Through Cancer.

Ffynonellau cyngor eraill:

Canllawiau Ariannol Macmillan:

https://www.macmillan.org.uk/documents/getinvolved/campaigns/workingthroughcancer/workingthroughcancer2010/workingthroughcancer2010.pdf

https://www.macmillan.org.uk/_images/Financial%20support%20(benefits)_Welsh_tcm9-315836.pdf

https://www.macmillan.org.uk/_images/Help%20with%20the%20cost%20of%20cancer_Welsh_tcm9-316129.pdf

Cyngor ar Bopeth:

https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Cyngor ar Bopeth Ceredigion:

https://www.citizensadvice.org.uk/wales/about-us/how-we-provide-advice/advice/search-for-your-local-citizens-advice/local-citizens-advice-details/?

Edrych ymlaen a dychwelyd i’r gwaith

Mae’n bwysig i chi a’r gweithiwr weithio gyda’ch gilydd i drafod a chytuno ar y ffordd orau ymlaen ac, ar adeg briodol, i gynllunio ar gyfer dychwelyd i’r gwaith. Gyda’ch gilydd, dylech archwilio pa gymorth sydd ei angen cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth canser. Cyn i’r gweithiwr ddychwelyd i’r gwaith, argymhellir hefyd eich bod yn ystyried opsiynau addas ar gyfer dychwelyd i’r gwaith, megis gweithio hyblyg, dychwelyd fesul cam, neu leihau oriau dros dro. Byddai’n fuddiol hefyd i’r cyflogai gael ei gyfeirio at y Meddyg Iechyd Galwedigaethol i gael asesiad meddygol, i adnabod unrhyw fecanweithiau cymorth y dylid eu gweithredu pan fydd ef/hi yn dychwelyd i’r gwaith.

Peidiwch ag anghofio’r effaith bosibl ar y tîm ehangach

Gan fod canser yn effeithio ar bawb, lle yr hysbysir aelodau’r tîm am ddiagnosis cydweithiwr (pan fydd y cyflogai wedi rhoi caniatâd i’r wybodaeth hon gael ei rhannu), mae hefyd yn bwysig sicrhau bod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt:

Gwasanaeth Cwnsela Staff: Care First – 0800 174 319

Llinell Gymorth Macmillan: 0808 808 00 00

Cadwch mewn cof weithwyr sy’n gofalu am bobl sydd â chanser

Efallai y bydd angen cymorth tebyg ar y rhai sy’n gofalu am bobl â chanser hefyd. Mae dod yn ofalwr yn aml yn annisgwyl, a gall fod yn rôl emosiynol ac ymdrechgar iawn. Gall y cyngor a ddarperir yn yr holl ganllawiau hyn fod yn ddefnyddiol hefyd i gefnogi gofalwyr.

Cefnogaeth Canser

Macmillan: Lllinell gymorth ar gael i bawb y mae canser yn effeithio arnynt. Gallwch ffonio am ddim ar 0808 808 00 00 neu ewch i’r wefan:

www.macmillan.org.uk .

Tenovus: Lllinell gymorth ar gael i bawb y mae canser yn effeithio arnynt. Gallwch ffonio am ddim ar 0808 808 1010 neu ewch i’r wefan: www.tenovuscancercare.org.uk/tenovus/cymraeg/