Canolfan Brechu Torfol Covid-19 – Mae angen eich help arnom!

Diolch i’r rhai ohonoch sydd eisoes wedi datgan diddordeb mewn cynorthwyo i weithio yn y Ganolfan Brechu Torfol yn Aberteifi. Yn anffodus, oherwydd pwysau mewn meysydd gwasanaeth eraill, nid ydym wedi gallu ymgysylltu â phawb sydd wedi gwirfoddoli ac felly mae angen gwirfoddolwyr pellach arnom.

Derbynnydd Imiwneiddio / Clerc Mewnbynnu Data

Rydym angen nifer o staff I ymgymryd a gwaith gweinyddol fel Derbynwyr Imiwneiddio / Clercod Mewnbwn Data i gefnogi’r ganolfan a galluogi cymaint o bobl â phosibl i gael eu brechu. Bydd y ganolfan yn weithredol 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Bydd y sifftiau dyddiol fel a ganlyn:

  • 9:00 – 15:00
  • 15:00 – 21:00

Bydd yr holl aelodau staff a fydd yn gwirfoddoli i gynorthwyo yn cadw eu gradd cyflog bresennol a byddant yn derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol, er mwyn sicrhau y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau yn ddiogel ac yn effeithiol. Bydd ein telerau a’n hamodau arferol yn gymwys ar gyfer lwfansau ychwanegol a lwfansau penwythnos a gwyliau banc. Gall staff hawlio costau teithio am yr holl deithio i’r ganolfan frechu ac yn ol.

Erfyniwn arnoch i wirfoddoli a chwarae rhan allweddol drwy gefnogi’r gwaith pwysig hwn o ddiogelu ein cymunedau.

Mynegi diddordeb

Er mwyn cyflwyno mynegiant o ddiddordeb mewn cefnogi’r Ganolfan Brechu Torfol cliciwch yma.