Model Darparu Gwasanaeth Integredig – Rhaglen Hyfforddi ar y Gweithdrefnau Diogelu

Neges bwysig gan Sian Howys, Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal

**At sylw’r holl staff yn y Model Darparu Gwasanaeth Integredig – Rhaglen Hyfforddi ar y Gweithdrefnau Diogelu**

“Mae diogelu yn fusnes i bawb”

Lansiwyd y Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan newydd ym mis Tachwedd 2019, ac i gyd-fynd â’r rhain mae rhaglen hyfforddi genedlaethol sy’n cynnwys 5 modiwl gwahanol.

Er mwyn adlewyrchu ein dull gydol oed, mae’n orfodol bod yr holl staff sy’n gweithio o fewn y Model Darparu Gwasanaethau Integredig yn cwblhau’r 4 modiwl.

Noder bod yn rhaid cwblhau Modiwl 1A neu 1B cyn modiwlau 2, 3 a 4.

Bydd rhaglen dreigl o hyfforddiant ar-lein yn dechrau ym mis Medi. Am fwy o wybodaeth gwyliwch y fideo drwy glicio’r linc isod:

I wirio pa fodiwlau sydd angen i chi eu cwblhau, edrychwch isod ac yna bwciwch eich llefydd ar Ceri hunan-wasanaeth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau trafodwch â’ch rheolwr llinell neu cysylltwch â’r tîm Dysgu a Datblygu ar dysgu@ceredigion.gov.uk.

( C –  Dynodi darpariaeth cyfrwng Cymraeg)

Rhif y Modiwl Diogelu Pwy sydd angen mynychu Dyddiadau darparu’r modiwl hwn (ar gael i’w archebu ar Ceri)
Modiwl 1A
Trosolwg i reolwyr o Weithdrefnau Diogelu Cymru a honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol.
Swyddogion Arweiniol Corfforaethol, Rheolwyr Corfforaethol, Rheolwr Tîm ac Uwch Ymarferwyr a staff sy’n gweithio mewn rolau diogelu dynodedig neu enwebedig 28/09/20 9:30 – 12:00
14/10/20 9:30 – 12:00
04/11/20 9:30 – 12:00
01/12/20 9:30 – 12:00 (C)
Modiwl 1B
Sesiwn codi ymwybyddiaeth ynghylch Gweithdrefnau Diogelu Cymru a honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol
Pob Gweithiwr Cymdeithasol, Pob swyddogaeth arall e.e. *Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, Swyddogion Asesu ac Adolygu, Swyddogion, Cymorth i Deuluoedd/ Cymorth Prosiect/ Therapydd Galwedigaethol/ Gweithiwr Ieuenctid / Therapydd Galwedigaethol Cynorthwyydd/ Cynorthwyydd Gofal/Housing/SEBSAs/Clic etc 06/10/20 1:30 – 4:00
19/10/20 1:30 – 4:00
09/11/20 1:30 – 4:00
03/12/20 1:30 – 4:00 (C)
Modiwl 2
Egwyddorion diogelu, ymyrraeth gynnar a phryderon sy’n dod i’r amlwg
Rheolwyr Corfforaethol, Rheolwyr Tîm ac Uwch Ymarferwyr, Pob Gweithiwr Cymdeithasol, Pob swyddogaeth arall fel yr uchod* 20/10/20 1:30 – 4:00
12/11/20 9:30 – 12:00
08/12/20 9:30 – 12:00 (C)
Modiwl 3
Prosesau diogelu, ffynonellau pryder i lunio adroddiad
Rheolwyr Corfforaethol, Rheolwyr Tîm ac Uwch Ymarferwyr, Pob Gweithiwr Cymdeithasol, Pob swyddogaeth arall fel yr uchod* 27/10/20 1:30 – 4:00
13/11/20 9:30 – 12:00
10/12/20 1:30 – 4:00 (C)
Modiwl 4
O’r adroddiadau ynghylch plant i benderfyniadau a chynadleddau o dan adran 47 / ymholiadau cychwynnol ynghylch Oedolion o dan adran 126 hyd at y diwedd.
Rheolwyr Corfforaethol, Rheolwyr Tîm ac Uwch Ymarferwyr, Pob Gweithiwr Cymdeithasol, Pob swyddogaeth arall fel yr uchod* 02/11/20 1:30 – 4:00
20/11/20 9:30 – 12:00
15/12/20 9:30 – 12:00 (C)

 

Cofion,

Sian Howys
Swyddog Arweiniol Corfforaethol: Porth Cynnal a Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol