Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2025.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i'w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw mae'n ei chynnig cliciwch yma.
Ydych chi'n chwilio am gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gan weithio fel Uwch Ymarferydd?
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cyflawni ei botensial ac rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau i sicrhau dull ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y swydd hon, byddwch yn helpu i arwain a rheoli tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymorth a fydd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner i helpu i gefnogi teuluoedd i ofalu'n ddiogel am eu plant lle bynnag y bo modd.
Byddwch yn canolbwyntio ar lwyth achosion bach o achosion mwy cymhleth ac yn goruchwylio ac yn cefnogi staff i sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc sydd angen cynlluniau diogelu, gofal a chymorth a chynllunio gofal. Byddwch yn gallu datblygu arbenigeddau mewn achosion llys, rheoli risg, gwaith uniongyrchol, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal ac agweddau eraill ar ddyletswyddau statudol.
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i ymgorffori'r Fframwaith Ymarfer Arwyddion o Ddiogelwch a Llesiant ac rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac i hyfforddi ein staff i adnabod a rheoli'r risg o niwed ac adeiladu gwydnwch pobl i gynyddu diogelwch a lles.
Lle bynnag y bo modd, rydym yn chwilio am unigolion sydd â rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi'n llawn i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 i'w benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion i weithwyr gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Gwybodaeth ychwanegol
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Fiona Nicholls ar Fiona.Nicholls@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.