The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym am benodi dau/dwy Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2, dros dro, am flwyddyn, yn dechrau ym mis Medi 2022, i’n cynorthwyo ni i gefnogi a chyflwyno dysgu yn Ysgol Gymunedol Plascrug.
Lleolir Ysgol Gymunedol Plascrug yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae 469 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’r ysgol yn sefydliad hapus, a chyfeillgar gyda’r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, egniol i ymuno a thim llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer ein disgyblion.
Fe fydd gofyn i chi:
Rydym am benodi unigolyn sydd a:
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.
I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyr yma. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rol hon yn gyflym ac yn hyderus.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Berian Lewis ar 01970 612286
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.