Mae'r swydd hon yn amodol ar daliad atodol marchnad o £200 y mis. Noder y bydd taliad atodol y farchnad yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2024.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i'w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw mae'n ei chynnig cliciwch yma.
Ydych chi'n chwilio am gyfle cyffrous i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gan weithio fel Uwch Ymarferydd?
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cyflawni ei botensial ac rydym yn trawsnewid ein gwasanaethau i sicrhau dull ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y swydd hon, byddwch yn helpu i arwain a rheoli tîm o weithwyr cymdeithasol, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol a gweithwyr cymorth a fydd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner i helpu i gefnogi teuluoedd i ofalu'n ddiogel am eu plant lle bynnag y bo modd.
Byddwch yn canolbwyntio ar lwyth achosion bach o achosion mwy cymhleth ac yn goruchwylio ac yn cefnogi staff i sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc sydd angen cynlluniau diogelu, gofal a chymorth a chynllunio gofal. Byddwch yn gallu datblygu arbenigeddau mewn achosion llys, rheoli risg, gwaith uniongyrchol, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal ac agweddau eraill ar ddyletswyddau statudol.
Mae Ceredigion wedi ymrwymo i ymgorffori'r Fframwaith Ymarfer Arwyddion o Ddiogelwch a Llesiant ac rydym yn buddsoddi mewn trawsnewid ein prosesau ac i hyfforddi ein staff i adnabod a rheoli'r risg o niwed ac adeiladu gwydnwch pobl i gynyddu diogelwch a lles.
Lle bynnag y bo modd, rydym yn chwilio am unigolion sydd â rhywfaint o ruglder yn yr iaith Gymraeg. Fodd bynnag, bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgiliau Cymraeg gofynnol yn cael ei gefnogi'n llawn i gyrraedd y safon a ddymunir o fewn 2 i'w benodi.
Gwybodaeth ychwanegol
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i’w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at humanresources@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw mae’n ei chynnig cliciwch yma.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig amrywiaeth o fuddion i weithwyr gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae rhagor o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn oedolion mewn perygl a phlant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi oedolion mewn perygl, plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod eu hawl i gael eu diogelu a byddant yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd arnom angen Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), y Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt cyn penodi i’r sywydd hon.