A ydych chi'n hyfforddwr profiadol sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth?
Ymunwch â'r Tîm Dysgu a Datblygu a helpwch i sicrhau bod gan weithlu'r Cyngor y sgiliau a'r wybodaeth gywir i ddarparu gwasanaethau rhagorol i bobl Ceredigion.
Gan ddefnyddio eich gwybodaeth am theori a sgiliau dysgu wrth gynllunio, datblygu a chyflwyno hyfforddiant, byddwch yn darparu hyfforddiant sy'n bodloni’r gofynion statudol ac anghenion unigolion a grwpiau o staff ar draws y Cyngor.
Mae hon yn swydd gyffrous sy'n gofyn am frwdfrydedd, hyblygrwydd ac ymrwymiad i ddysgu a’r gallu i weithio fel rhan o dîm. Yn gyfathrebwr rhagorol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o ddarparwyr yn y maes dysgu a datblygu i gynnig cyfleoedd, cymwysterau a hyfforddiant a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n gweithlu.
Bydd mynd i ddigwyddiadau Hyfforddi’r Hyfforddwr cyn paratoi, cynllunio a chyflwyno'r rhaglenni hyfforddi yn elfen allweddol o'r rôl hon.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Debbie Ayriss, Debbie.Ayriss@ceredigion.gov.uk neu Victoria Foale, Victoria.Foale@ceredigion.gov.uk
Cynhelir cyfweliadau: wythnos yn dechrau 27 Mai, 2024.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.