Rydym yn awyddus recriwtio glanhawr i ymgymryd â'r amrywiol gyfrifoldebau glanhau yn sicrhau bod yr i yn cael ei chadw mewn cyflwr glân a llanwedd.
Mae'r Gwasanaeth Glanhau yn darparu gwasanaeth hanfodol ledled Sir Ceredigion (De). Pwrpas y rôl yw ymgymryd â thasgau glanhau, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel gan sicrhau amgylchedd diogel ac yn lanwedd.
Er y byddai profiad a gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch yn fanteisiol, darperir hyfforddiant llawn. Mae angen sgiliau cyfathrebu da. Bydd angen hyblygrwydd ar gyfer pob rôl o ran lleoliad, a'r oriau a weithir a allai gynnwys boreau cynnar, gyda'r nos. Gofynnir am wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon.
Bydd y tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys y canlynol:
Glanhau, golchi, brwsio, hwfro, gwacáu biniau sbwriel, sychu mannau penodol â chlwtyn gwlyb a’u dwstio (gallai hyn gynnwys ardal y toiledau a’r cawodydd) gan gynnwys gosodiadau a ffitiadau, defnyddio’r cyfarpar/offer trydanol angenrheidiol lle bo hynny’n briodol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n llawn cymhelliant ac yn frwdfrydig ynglŷn â natur y gwaith. Bydd ganddo/ganddi agwedd hyblyg a bydd ef/hi yn medru cyflawni gwahanol ddyletswyddau yn unol â rhestr waith amrywiol.
Os na fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y sgiliau angenrheidiol o ran y Gymraeg, caiff ef/hi gefnogaeth lawn i gyrraedd y safon ofynnol o fewn dwy flynedd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
propertyservices@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.