The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Cyfle gwych i athro/athrawes effeithiol ac ymroddgar ym maes Technoleg Bwyd i ymuno â’r Gyfadran Ddylunio o Fedi 2022. Swydd rhan amser yw hon (0.6).
Chwiliwn am unigolyn brwdfrydig a chymwys a fydd yn ein helpu i symud ymlaen i ddatblygu ein darpariaeth yn y maes cwricwlwm pwysig hwn. Cyfle gwych yw hwn i addysgu mewn ysgol arbennig lle credir mai rhywbeth i bawb yw llwyddiant. Gwahoddwn geisiadau wrth athrawon gwych gyda’r ymroddiad, yr ysfa a’r angerdd i ysgogi pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial o fewn amgylchfyd gefnogol academaidd.
Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi yn ysgol uwchradd ffyniannus a dedwydd i blant 11-19 oed yng Ngorllewin hyfryd Cymru. Mae yma ethos weithgar, ofalgar a threfnus gyda disgwyliadau uchelgeisiol wrth ddisgyblion a staff. Mae’r disgyblion yn annwyl, ac fe’u cefnogir nhw gan dîm o staff rhagorol sydd â’u bryd ar sicrhau cynnydd parhaus mewn awyrgylch bositif o ‘galla’i wneud hyn’. Mae’r ysgol felly’n bleser i weithio a dysgu ynddi, gyda chanlyniadau sydd gyda’r gorau yn y wlad erbyn hyn.
Pam ddylech chi ddod yn athro i Ysgol Uwchradd Aberteifi?
Rhoddwn:
Os credwch fod gennych y sgiliau, yr egni a’r profiad ar gyfer y swydd hon, byddem wrth ein bodd i dderbyn eich cais. Mae Ysgol Uwchradd Aberteifi’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifainc a disgwylir hyn wrth bob aelod o staff hefyd.
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau: 04/07/22.
Noder: Cedwir yr hawl i ddiwygio’r dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.