Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2025.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma.
Rydym ar hyn o bryd yn chwilio am Uwch Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol, parhaol, i ymuno a thîm Asesu a Brysbennu Integredig, Porth Gofal.
Mae’r swydd hon yn rhoi cyfle gwych i aelod ymroddedig a deinamig o’r staff weithio mewn amgylchedd amlddisgyblaethol a fydd yn cefnogi unigolion bregus a’u teuluoedd mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol.
Porth Gofal yw’r hwb gwneud penderfyniadau integredig yng Ngheredigion sy’n brysbennu a phennu lefel angen pob achos a’n sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer yr unigolion hynny.
Mae Porth Gofal yn ganolog i’r ddarpariaeth o’r gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod Dinasyddion yn derbyn yr ymyrraeth orau i fodloni eu hanghenion neu’n eu cyfeirio at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.
Beth mae Porth Gofal yn ei ddarparu:
Beth mae Porth Gofal yn ei gyflawni:
Mae ymrwymiad i weithio integredig gan ganolbwyntio ar ganlyniadau adsefydlu cadarnhaol i’r dinesydd yn hanfodol.
Mae’r gallu i deithio ledled y sir yn hanfodol.
Rhaid cael dwy flynedd o brofiad sy’n gymwys i’r swydd, a phrofiad o oruchwylio staff.
Mae polisi dwyieithog yn weithredol a rhoddir cefnogaeth ac anogaeth i ymgeiswyr nad oes ganddynt y gallu ieithyddol yn y Gymraeg i gyflawni’r safon ALTE o fewn dwy flynedd.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jackie Roberts, Rheolwr Tîm - Brysbennu Integredig/Asesu Integredig: 01545 574 108 / jackie.roberts@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.