The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Erbyn Ebrill neu Medi 2023, mae Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig am benodi Pennaeth eiddgar sydd â’r weledigaeth a’r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi cymuned gyfan.
Er bod y Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Pennaeth parhaol, y maent hefyd yn barod i ystyried cais secondiad gan ymgeiswyr cymwys.
Mae Ysgol Penweddig yn ysgol flaengar a chyffrous sydd yn dathlu hanner can mlynedd o addysg cyfrwng Gymraeg yng Ngogledd Ceredigion. Gwahoddir ceisiadau gan addysgwyr profiadol, sy’n frwdfrydig ac ysbrydoledig, i adeiladu ar y dreftadaeth gref hon ac arwain yr ysgol yn gadarn i’r cyfnod nesaf yn ei hanes, a gwireddu’r weledigaeth o ddatblygu dysgwyr CAMPUS sy’n rhagori mewn meysydd eang.
Lleolir Penweddig yn Aberystwyth, tref Prifysgol ac un o drefi mwyaf diwylliannol a hanesyddol Cymru. Mae Sir Ceredigion yn cynnig ansawdd byw o’r lefel uchaf, yn ogystal â bod yn un o’r siroedd harddaf o ran tirwedd yng Nghymru.
Rhoddir ystyriaeth i daliad lwfans adleoli os bydd angen.
Os am fwy o wybodaeth, neu drefnu ymweliad â’r ysgol, cysylltwch â Chlerc y Corff Llywodraethol, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Ffordd Llanbadarn, Llangawsai, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3QN (Ffôn: (01970) 639499, e-bost: llywodraethwyr@penweddig.ceredigion.sch.uk)
Os am weld mwy o Geredigion, ewch i Darganfod Ceredigion.
Pecyn Gwybodaeth
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.