The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Technegydd i Gyfadran Wyddoniaeth yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo athrawon gwyddoniaeth wrth ddarparu lefel addas a diogel o brofiadau gwyddonol ymarferol i ddisgyblion yr ysgol.
Manylion y swydd:
Dalier sylw – Cynigir hyfforddiant i’r ymgeisydd llwyddiannus mewn un neu fwy o’r meysydd uchod os bydd angen.
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf. Mewn arolwg Estyn (Chwefror 2019) nodwyd fod ‘Ysgol Bro Teifi yn gymuned gynhwysol iawn, hynod ofalgar a Chymreig. Yn greiddiol i’w gwaith mae ei darpariaeth arbennig ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad sy’n cydweddu ag arwyddair yr ysgol, oni heuir ni fedir.’ Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 925 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 351 o oedran cynradd a 574 o oedran uwchradd, gyda 104 o’r rhain yn y chweched dosbarth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi, Mr Gareth Evans ar 01559 362503 neu drwy e-bost, gareth.evans@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.