The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Rydym am recriwtio Pennaeth yr Adran Gymraeg i ymuno âg Ysgol Bro Pedr ar gytundeb parhaol, llawn amser o fis Medi 2022 ymlaen.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr yn awyddus i benodi arweinydd profiadol sy'n credu'n gryf bod pob person ifanc yn haeddu'r addysg orau. Dyma swydd allweddol yn yr ysgol gan y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain adran flaengar wrth i’r ysgol edrych ymlaen yn hyderus at y cyfnod nesaf yn ei hanes. Bydd angen brwdfrydedd, egni a gweledigaeth i arwain un o feysydd craidd yr ysgol, ond yn anad dim mae angen angerdd dros y Gymraeg. Dyma felly her gyffrous a chyfle ardderchog i ymgeiswyr priodol.
O ddydd i ddydd byddwch yn:
Rydym am recriwtio unigolyn: (cyfeiriwch at y sgiliau allweddol yn y Manyleb Person)
Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg. Bydd ymgeisydd llwyddiannus heb y sgil Gymraeg ofynnol yn cael cefnogaeth lawn i gyrraedd y safon a ddymunir cyn pen dwy flynedd o'i benodi.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Pecyn Gwybodaeth
Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Jane Wyn (Pennaeth) ar 01570 422 214 neu j.wyn2@bropedr.ceredigion.sch.uk
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Gwener, 27 Mai, 2022.
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.