Bydd Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 9 cyn symud ymlaen i radd 10 ar ôl 2 flynedd yn y swydd. Bydd gweithwyr cymdeithasol profiadol yn dechrau ar gyflog a disgrifiad swydd Gradd 10. Gellir cael mynediad i’r ddau ddisgrifiad swydd isod.
Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2025.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnir oherwydd adleoli i Geredigion. Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a'r ffordd o fyw ragorol y mae'n ei gynnig, cliciwch yma.
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig sy’n chwilio am y cyfle i weithio mewn ardal wledig a heddychlon yng Ngorllewin Cymru?
Fel gweithwr cymdeithasol bydd gennych brofiad ar ôl ennill cymhwyster ym maes gwasanaethau gofal plant gan fod yn rhan o’r gwaith o recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi gofalwyr yn unol â Safonau Cenedlaethol Maethu. Byddwch chi’n cael eich cefnogi â chefnogaeth reolaidd. Bydd cyfle i ymgymeryd a phrosiectau newydd.
Mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i’r dull Arwyddion Diogelwch ac mae yn y broses o drawsnewid i’r model gydol oed sy’n cynnig mwy o hyblygrwydd i ddatblygu cynlluniau a gwasanaethau i fodloni gofynion ac mae hyn wedi arwain at rai cyfleoedd cyffrous i gydweithio rhwng adrannau o fewn yr awdurdod yn ogystal â gyda’n hasiantaethau partner.
Rydym yn chwilio am unigolion a chanddynt rywfaint o allu yn y Gymraeg. Pe na bai gan ymgeisydd llwyddiannus y medrau gofynnol yn y Gymraeg, byddai’n cael ei gefnogi’n llawn i gyrraedd y safon angenrheidiol o fewn dwy flynedd i ddyddiad ei benodiad.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys cynllun oriau hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol a chynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma.
Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon, yn gyflym ac yn hyderus, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn i chi allu ddatblygu eich gyrfa, wrth i chi weithio gyda ni.
Mae’r swydd yn gofyn am Wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. A'r brydiau fydd ofyn i chi gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Fe wnawn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n ceisio am swydd gyda threfniadau gweithio rhan amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Newydd Gymhwyso)
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person (Wedi cymwhwyso)
Cysylltwch â ni
Am wybodaeth pellach a thrafodaeth anffurfiol ynglŷn â'r swydd hon cysylltwch â Sarah Codner ar Sarah.Codner@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.