The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
‘Llwybr llwyddiant, lles a llawenydd’
I gychwyn tua diwedd Mehefin 2023 i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon arloesol, brwdfrydig, egnïol ac ymroddgar i ymgeisio am swydd ddysgu ym mlwyddyn 3. Eich nod fydd i sicrhau addysg o’r safon uchaf i bob disgybl, a pharhau i godi a chynnal safonau cyrhaeddiad. Mi fydd y gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol a chymunedol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r swydd yma.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd drwy ffonio 01239 654 554 neu ebostio lloydm38@hwbcymru.net.
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.