The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi addysgwr blaengar a chydwybodol i ymuno â chyfadran Saesneg yr ysgol. Dyma gyfle i ymuno â chyfadran lwyddiannus iawn sy’n ymrwymedig i sicrhau’r profiadau gorau oll i’r disgyblion. Bydd cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu ar draws yr ystod oed uwchradd, gan gynnwys cyfnod allweddol 5. Croesawir ceisiadau gan athrawon profiadol ynghyd ag athrawon newydd gymhwyso.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
Agorwyd Ysgol Bro Teifi ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf. Mewn arolwg Estyn (Chwefror 2019) nodwyd fod ‘Ysgol Bro Teifi yn gymuned gynhwysol iawn, hynod ofalgar a Chymreig. Yn greiddiol i’w gwaith mae ei darpariaeth arbennig ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad sy’n cydweddu ag arwyddair yr ysgol, oni heuir ni fedir.’ Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae 937 o ddisgyblion yn yr ysgol gyda 371 o oedran cynradd a 566 o oedran uwchradd, gyda 101 o’r rhain yn y chweched dosbarth.
Mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Disgrifiad Swydd
Os am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Phennaeth Ysgol Bro Teifi, Mr Robert Jenkins ar 01559 362503 neu drwy e-bost, robert.jenkins@broteifi.ceredigion.sch.uk.
Noder: Cedwir yw hawl i ddiwygio’r dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.