The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
I ddechrau Ionawr 2023 - Prif raddfa cyflogau athrawon a ChAD 3e am y cyfrifoldeb o Arwain y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg, 3 i 14.
Yn sgil datblygu medrau digidol disgyblion, mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Pedr yn awyddus i benodi Athro TGCh llawn amser, parhaol ymroddedig ac ysbrydoledig a fydd yn dysgu disgyblion Blynyddoedd 7 - 13. Croesawir ceisiadau gan ymarferwyr uwchradd ac ysgolion Gydol Oes ar gyfer y swydd yma.
Mae Ysgol Bro Pedr yn Ysgol Gydol Oes, 3-19, lwyddiannus, gyda nifer arwyddocaol o ddisgyblion ar y gofrestr â’r Saesneg yn Iaith Ychwanegol iddynt. Mae’r Ysgol yn ysgol categori melyn B (Ionawr 2020). Derbyniwyd cadarnhad wrth ALPS bod canlyniadau Safon Uwch Bro Pedr yn y 25% uchaf ym Mhrydain (tair blynedd ddiwethaf) yn Rhagfyr 2019. Dyfarnwyd yr Ysgol yn dda ym mhob agwedd yn dilyn ymweliad ESTYN yn Hydref 2016.
Adroddodd Estyn yn 2016: “Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol hapus sydd ag ethos gofalgar a chefnogol. Mae iddi gymeriad Cymreig naturiol ac mae hefyd yn adlewyrchu’r gymuned amlddiwylliannol. Mae’n gweithio’n llwyddiannus i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth disgyblion o amrywiaeth”.
Pwysleisiodd Estyn hefyd: “Mae’r staff yn cydweithio’n briodol fel tîm ac yn darparu cyfleoedd effeithiol i’r disgyblion ddysgu”, gan ddweud am arweinyddiaeth yr Ysgol: “Mae gan y pennaeth ddisgwyliadau uchel a gweledigaeth glir ar gyfer datblygu’r ysgol, sy’n seiliedig ar sicrhau safonau uchel a lles disgyblion. Mae’n llwyddo i gyfleu ei gweledigaeth yn effeithiol i’r staff, y disgyblion, y llywodraethwyr a’r rhieni. Caiff y pennaeth ei chefnogi’n effeithiol gan aelodau’r uwch dîm rheoli”.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn medrus sy’n meddu ar nodweddion dysgu ac addysgu rhagorol ac a fydd yn:
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
Prif gyfrifoldebau’r swydd hon yw:
Mae croeso cynnes ichi i dderbyn gwybodaeth bellach am y swydd yma. Ffoniwch yr Ysgol ar 01570 422214.
Pecyn Recriwtio
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.