The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae'r Llywodraethwyr am benodi: Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i gydweithio’n agos gyda disgyblion a staff ar draws yr ysgol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda grwpiau ac unigolion er mwyn sicrhau lles a chynnydd pob disgybl.
Cytundeb: Swydd llawn amser (cytundeb blwyddyn i ddechrau)
Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn ysgol 3 – 11 oed, gyda 410 o ddisgyblion ar y gofrestr Ein gweledigaeth yw: darparu cwricwlwm eang, diddorol ac ysbrydoledig er mwyn datblygu dysgwyr annibynnol, effeithiol, brwdfrydig, dwyieithog, a’u paratoi i fod yn ddysgwyr gydol oes.
Fe fydd gofyn i chi:
Rydym am benodi unigolyn sydd â:
Fe fydd yr ymgeisydd perffaith yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg er mwyn cael ei benodi/phenodi i’r swydd hon.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mr Clive Williams clive.williams@ysgolgymraeg.ceredigion.sch
Noder: Cedwir yr hawl i ddiwygio’r dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.