* Hysbyseb yw hon i ymuno â'n pwll recriwtio Cynorthwywyr Gofal. Mae'r pwll recriwtio wedi'i sefydlu i gynorthwyo ein Rheolwyr Cartrefi Gofal Preswyl i lenwi eu swyddi gwag cyn gynted â phosibl tra hefyd yn arbed ichi orfod cyflwyno sawl cais am swydd. Pe bai'ch cais yn llwyddiannus fe'ch gwahoddir i gyfweliad ac os byddwch yn llwyddiannus mewn cyfweliad byddwch yn ymuno â'r pwll. Er mwyn i'n Rheolwyr allu penderfynu a fyddech chi'n addas ar gyfer swydd wag pan byddent yn dod ar gael, byddwn yn gofyn ichi ddarparu manylion eich dewis o ran ble yr hoffech weithio a pha oriau y byddech ar gael. Ni allwn warantu cynnig swydd i gyd-fynd â'ch union ddewisiadau.*
Ydych chi wedi ystyried gweithio fel cynorthwyydd gofal? Rydym bob amser yn awyddus i ehangu ein tîm ac mae eich angen chi arnom yn awr, boed hynny os ydych yn ofalwr profiadol sy’n edrych am her newydd neu os ydych yn dechrau ar eich gyrfa. Ymunwch â’n tîm cydwybodol, cyfeillgar a chefnogol a dewch i weld y newid gwirioneddol y gallwch chi ei wneud.
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd ar eich cyfer. Nid yw profiad o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol. Yn aml iawn, mae profiad bywyd yn bwysicach na phrofiad gwaith, ein prif flaenoriaeth yw dod o hyd i bobl sy’n garedig, yn amyneddgar, yn dangos parch tuag at eraill ac yn dangos gwydnwch cymeriad. Gallwn ddysgu’r gweddill i chi – a allech chi fod yn un o’r bobl yr ydym yn chwilio amdanynt?
Rydym yn recriwtio’n rheolaidd ar gyfer swyddi llawn amser a rhan amser, ar gyfer gweithio sifftiau dydd neu sifftiau nos. Mae gennym swyddi dros dro (achlysurol) hefyd sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi ddewis pryd, ble ac am ba mor hir y byddwch yn gweithio. Mae cyfleoedd ar gael i weithio yn unrhyw un o’n 5 cartref gofal preswyl:
Mae pob un o’n cynorthwywyr gofal yn derbyn cyflog pro-rata o £19,264 y flwyddyn (£9.98 yr awr). Pe baech yn dewis gweithio sifftiau nos, byddech hefyd yn derbyn lwfans nos. Yn yr un modd, rhoddir lwfans penwythnos am unrhyw oriau a weithir yn ystod y penwythnos.
Fel aelod o staff sy’n gweithio yn un o’n lleoliadau gofal, byddwch yn cael eich cefnogi a’ch diogelu’n llawn yn eich swydd. Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth wrth i chi gyflawni gwaith gweithiwr allweddol yn y swydd amrywiol, werth chweil hon. Isod ceir rhestr sy’n rhoi syniad cyffredinol i chi o’r dyletswyddau:
Mae cyfraniad ein cynorthwywyr gofal i iechyd, diogelwch a lles preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym, felly, am sicrhau bod ein Cynorthwywyr Gofal yn cael y boddhad mwyaf posibl o weithio yng Ngheredigion. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amryw o fuddion i’n gweithwyr, yn gyfnewid am eu sgiliau a’u hymroddiad. Mae’r buddion hyn yn cynnwys:
Am wybodaeth bellach am ein buddion i weithwyr, cliciwch yma.
Mae hwn yn gyfle arbennig i unigolyn gofalgar, llawn cydymdeimlad, ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddgar a gwneud gwahaniaeth go iawn.
Rydym wedi ei gwneud hi’n haws i chi ymgeisio drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae gwneud cais yn haws nag erioed erbyn hyn! Er mwyn eich cadw’n ddiogel yn ystod pandemig y Covid-19, cynhelir pob cyfweliad dros y ffôn.
Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau eich ffurflen gais, peidiwch ag oedi cyn cysylltu drwy ffonio’r rhif canlynol 01970 633949.
Noder y llunnir rhestr fer ac y cynhelir cyfweliadau ar sail barhaus. Byddwn yna yn cysylltu â chi i benderfynu ble a pha oriau yr hoffech chi weithio.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Mae diogelu oedolion sydd mewn perygl yn flaenoriaeth allweddol i ni. Anelwn at gefnogi oedolion sydd mewn perygl, er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn cydnabod bod hawl gan oedolion sydd mewn perygl i gael eu hamddiffyn a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a bydd angen Gwiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).