Mae’r swydd hon yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £200 y mis. Nodwch y bydd y taliad ychwanegol hwn yn cael ei adolygu ar 31 Mawrth 2025.
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymwys i gael hyd at uchafswm o £8,000 (gan gynnwys TAW) tuag at gost y treuliau a dynnwyd o ganlyniad i’w adleoli i Geredigion. Am wybodaeth bellach anfonwch e-bost at adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk. Am fwy o wybodaeth am sir Ceredigion a’r ffordd o fyw mae’n ei chynnig cliciwch yma.
Mae’r swydd Swyddog Adolygu Annibynnol: Diogelu yn cynnig cyfle cyffrous i weithio fel rhan o Dîm Sicrhau Ansawdd brwdfrydig ac ymroddedig o fewn Gwasanaeth Diogelu Cyngor Sir Ceredigion.
Tra bod yr Awdurdod Lleol yn datblygu Model Llesiant Gydol Oed o ddarpariaeth gofal cymdeithasol, eich rôl fydd gweithio’n benodol â phlant, pobl ifanc.
Rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol: Diogelu fydd darparu gwasanaeth adolygu statudol annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, pobl ifanc.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cadeirio Cynadleddau Cychwynnol a Chynadleddau Adolygu Amddiffyn Plant, gan sicrhau bod Cynlluniau Amddiffyn Plant cadarn yn cael eu datblygu ar gyfer plant sydd mewn perygl o, neu’n cael eu cam-drin a/neu’u hesgeuluso.
Bydd y rôl hefyd yn golygu cynnal Adolygiadau Blynyddol o Ofalwyr Maeth/Gofalwyr sy’n Berthnasau ac adolygiadau o blant risg uchel sydd angen gofal a chymorth.
Mi fyddech yn rhan o Bartneriaeth Ranbarthol sy’n gweithio mewn ffordd gadarn, ymroddedig ar lefel leol, aml-asiantaeth, gan anelu at weithio ar y cyd i sicrhau canlyniadau o’r ansawdd gorau i blant a phobl ifanc.
Ein cynnig i chi:
Mae’r Awdurdod Lleol yn gweithio i roi’r Fframwaith Ymarfer Arwyddion Diogelwch ar waith. Mae’r Awdurdod Lleol hwn wedi ymrwymo i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ei staff, i’w cynorthwyo i gyflawni eu potensial yn llawn, drwy oruchwyliaeth, cymorth a chyfleoedd hyfforddi ardderchog.
Rydym hefyd yn angerddol am sicrhau bod ein gweithwyr yn cael y cyfle i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
Ymhellach, yn gyfnewid am eich sgiliau a’ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr i chi gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cyfraniadau pensiwn hynod hael (14.6%), buddion teulu gwell, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles gweithwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ein buddion amrywiol i weithwyr ar gael yma.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Sera Llewelyn-Rheolwr Tim, Tim Sicrwydd Ansawdd ar 01545 574000.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.