The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion egnïol a gweithgar i gynorthwyo yn adran Cyfnod Sylfaen yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson sydd â diddordeb mewn gweithio’n agos gyda’r disgyblion, sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu da a sydd hefyd yn medru gweithio’n effeithiol a hwyliog gyda gweddill tîm yr ysgol.
Mae’r swydd hon yn benodol ar gyfer cynorthwyo o fewn dosbarth yn y Cyfnod Sylfaen. Felly, byddai dealltwriaeth cadarn o egwyddorion y Cyfnod Sylfaen yn fanteisiol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus awain y dysgu o fewn grwpiau o ddysgwyr o dan gyfarwyddyd yr athrawes ddosbarth. Hefyd, bydd angen ymlwybro o fewn y dosbarth a hybu dysgu trwy holi cwestiynau a modelu gweithgareddau a thasgau i’r plant. O bosib, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus rhedeg grwpiau ymyrraeth ar adegau. Fodd bynnag, bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Eirwyn Griffiths (01239 810081) neu drwy e-bost at e.griffiths3@aberporth.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yw hawl i ddiwygio’r dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.