The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth athrawon brwdfrydig, blaengar ac ysbrydoledig am swydd ddysgu yn y Cyfnod Sylfaen (Blynyddoedd 1 a 2) yn Ysgol Gynradd Felinfach am dri bore’r wythnos (Dydd Mercher, Dydd Iau a Dydd Gwener.) Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gallu creu cyfleoedd dysgu cyffrous a diddorol ar draws yr ystod gallu ac i gyfrannu i'r ethos tim cryf sydd yn nodwedd o'r ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferydd ardderchog o fewn y dosbarth gyda disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i godi safonau. Mi fydd y gallu i fod yn hyblyg ac i weithio’n effeithiol fel rhan o d?m ynghyd â’r parodrwydd i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol yn fanteisiol. Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd yma.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu i’r Pennaeth Mrs Non McEvoy drwy ebost: prif@felinfach.ceredigion.sch.uk neu drwy ffonio 01570 470655.
Noder: Cedwir yw hawl i estyn y dyddiad cau
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.