Ydych chi wedi ystyried gweithio ym maes Gofal Preswyl i Oedolion? Rydym am tyfu ein tîm!
Ydych chi’n mwynhau gofalu am eraill neu a ydych chi’n chwilio am her newydd? Ymunwch â’n tîm gweithgar, cyfeillgar a chefnogol yng Nghartref Gofal Preswyl Hafan y Waun i weld y gwahaniaeth gwirioneddol y gallwch ei wneud.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio 1 x 21 awr Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Hafan y Waun, Aberystwyth yn barhaol.
Am y rôl
Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:
Ein hymgeisydd delfrydol
Mae profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol ynghyd â charedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch.
Ein cynnig i chi
Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:
I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch yma.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cyflwyno cais
Rydym wedi ei gwneud yn haws i chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed!
Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, mae croeso i chi gysylltu â 01970 633949 neu e-bostio: adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i’r tâl canlynol:
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Rachael Jones ar: Rachael.Jones@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.