The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
Mae Ysgol Dyffryn Cledlyn yn chwillio am berson ymroddgar a brwdfrydig i ymuno â thîm yr Ysgol am gyfnod o flwyddyn. Mi fydd y swydd i weithio’n benodol gyda disgyblion ym mlwyddyn 2 sydd ag anghenion penodol ac angen cymorth i ddiwallu ei anghenion.
Byddai profiad yn gweithredu rhaglenni ymyrraeth yn flaenorol yn fanteisiol. Mae’r swydd yn galw am berson hyblyg sy’n medru gweithio a chyd-weithio fel aelod o dîm ymroddgar yn ogystal a chynnal safonau uchel o waith. Mi fydd y swydd yn cyd-weithio gyda staff ymroddgar a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth Carol Davies ar 01570 940942 neu carol.davies@dyffryncledlyn.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i estyn y dyddiad cau.
Mae diogelu ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i ni. Ein nod yw cefnogi plant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym yn cydnabod bod gan blant, pobl ifanc a’r rhai sydd mewn perygl hawl i gael eu a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu’u lles. Disgwylir i bob aelod o staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn, a bydd angen Gwiriad Gwell gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), CRB gynt.