A oes gennych chi brofiad o weithio gyda phlant a/neu bobl ifanc?
A ydych chi'n dymuno gwneud gwahaniaeth trwy gynnig cymorth arbenigol i'r rhai mewn angen?
Os ateboch chi oes ac ydw, hoffem glywed gennych...
Dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) 1984, ni ddylai heddweision gyfweld plant a phobl ifanc dan amheuaeth eu bod yn gysylltiedig gyda throsedd yn absenoldeb Oedolyn Priodol (AA). Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n gallu mynychu dalfeydd yng Ngheredigion.
Mae rôl Oedolyn Priodol gwirfoddol yn bwysig iawn er mwyn diogelu lles y plentyn rhwng 10 a 18 oed. Diben rôl yr Oedolyn Priodol yw hwyluso cyfathrebu, sicrhau y caiff hawliau'r plentyn eu parchu a'u harddel; sicrhau y cynhelir cyfweliad yr heddlu yn unol â PACE a bod yr heddweision sy'n cyfweld yn ystyried oedran y plentyn.
Mae Oedolion Priodol Gwirfoddol yn mynychu gorsafoedd heddlu yng Ngheredigion pan ofynnir iddynt fynychu am y rhesymau canlynol:
Gofynion
Ar ôl llenwi'r ffurflen gais gwirfoddolwr, a chadarnhau eu manylion, estynnir gwahoddiad i wirfoddolwyr fynychu cyfweliad, ar-lein neu wyneb yn wyneb (Gan ddilyn asesiad risg Covid-19 a gweithdrefnau diogelwch).
Rôl:
Meini Prawf Hanfodol
Mae angen gwirfoddolwyr arnom sy'n gallu ymrwymo i gael eu galw allan ar y funud olaf yn ystod yr wythnos, gan gynnwys gyda'r hwyr ac ar benwythnosau, yn dilyn yr hyfforddiant paratoadol.
Mae'r rôl hwn yn mynnu bod gan wirfoddolwyr drwydded yrru lawn a'u bod yn gallu manteisio ar eu car eu hunain.
Ymagwedd:
Recriwtio Gwirfoddolwyr:
Ffurflen Gais I E-bost: Tallulah.Moonlight@ceredigion.gov.uk
Os hoffech gael ffurflen gais neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cyn gwirfoddoli fel AA, cysylltwch â Tallulah Moonlight trwy anfon neges e-bost i'r cyfeiriad uchod.
Mae'r swydd wirfoddol hon yn destun archwiliad estynedig gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Buddion:
Ni fydd gofyn meddu ar gymwysterau ffurfiol oherwydd y rhoddir hyfforddiant llawn ac ad-dalir treuliau parod.